Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy i Gymru

Crynodeb o'r sesiwn gychwynnol gyda'r grŵp arwain

Various housing pictures

Mae'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, mewn partneriaeth â Chomisiwn Dylunio Cymru, wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried yr ymyriadau polisi allweddol a darparu map ffordd i wneud pob adeilad newydd yn ddi-garbon, yn ogystal ag ystyried sut y gall yr amgylchedd adeiledig gyfrannu at darged Cymru i leihau gollyngiadau carbon 3% bob blwyddyn.

Yn y cyfarfod cyntaf, penderfynwyd y dylid amlinellu cylch gwaith y grŵp fel a ganlyn.

Nod y gwaith fyddai:

• datblygu cyngor ac argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru ar sail ei dyhead i wneud pob adeilad newydd yn ddi-garbon erbyn 2011 a'i tharged i leihau CO2 3% bob blwyddyn fel yr amlinellir yn Cymru'n Un.

• nodi meysydd a map ffordd ar gyfer cynnydd y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru eu defnyddio i gyflawni, archwilio a chydnabod y prif rwystrau, a nodi cyfleoedd, opsiynau polisi, cymhellion a mesurau i oresgyn y rhwystrau hyn.

• creu rhwydwaith arwain o randdeiliaid allweddol o'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol

Meysydd posibl i'w hystyried:

• Mapio'r arfer gorau sydd eisoes ar waith, ledled Cymru, y DU, yr UE ac yn Rhyngwladol o bosibl, a sut y gellid/dylid ei gymhwyso i Gymru

• Cynllun gweithredu i droi polisïau/strategaethau allweddol yn arfer effeithiol

• Nodi meysydd i ddatblygu polisi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

• Cefnogi a chynnwys cynllunwyr ac ystyried eu rôl yn yr agenda (a gwaith tebyg gydag awdurdodau lleol)

• Cynnwys datblygwyr sector preifat

• Datblygu sgiliau ym mhob rhan o'r sector

• Datblygu'r gadwyn gyflenwi - cwymp neu gyfle economaidd?

• Ystyried sut y bydd gwaith y grŵp yn berthnasol i newid ymddygiad