n ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 19 Mai 2005) gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (SDC), i fynd i’r afael â phroblemau'r hinsawdd yn newid a sicrwydd ynni, rhaid gwneud i bŵer gwynt weithio.
Mae ‘Wind Power in the UK’wedi’i osod yn erbyn targed y Llywodraeth i gynyddu cyfraniad ynni adnewyddadwy tuag at drydan y DU i 10 y cant erbyn 2010 - gydag uchelgais i gyrraedd 20 y cant erbyn 2020 - fel rhan o ymdrechion i leihau gollyngiadau nwy tŷ gwydr yn ddramatig ac ar yr un pryd gwella sicrwydd ynni. Mae Cynulliad Cymru wedi gosod targed i gynhyrchu 4,000 GWh o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2010. Nod yr adroddiad yw helpu llunwyr polisi a chynllunwyr i gydbwyso pryderon lleol go iawn ag anghenion amgylcheddol a chymdeithasol ehangach, er mwyn gwireddu manteision ynni adnewyddadwy drwy ddylunio gofalus ac ymgynghori.
Dywedodd Cadeirydd SDC, Jonathon Porritt: 'Bydd yr hinsawdd yn newid yn cael effaith drychinebus oni bai bod gweithredu ar fyrder i hybu cyfraniad ynni adnewyddadwy, ochr yn ochr a mesurau effeithlonrwydd ynni. I hyn ddigwydd, mae angen proses dda o wneud penderfyniadau, ac mae hyn yn gofyn am wybodaeth ddibynadwy, ddiweddar, wedi’i seilio ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael. Credwn fod pŵer gwynt yn rhan hanfodol bwysig o’r cymysgedd ynni cyffredinol, a gobeithiwn y bydd y canllaw awdurdodol hwn yn sicrhau harneisio pŵer gwynt yn y modd mwyaf cyfrifol i sicrhau lleihau gollyngiadau carbon deuocsid'. Mae’r SDC yn cefnogi’r pwyslais gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ymgynghori cyhoeddus yn gynnar ac effeithiol, a bydd hynny’n hanfodol os yw targedau ynni adnewyddadwy i’w bodloni'.
Yn ogystal â gweithredu fel canllaw ymarferol i’r rheiny sy’n gysylltiedig â datblygu ffermydd gwynt, dywed yr adroddiad:
- Mae gan y DU yr adnoddau gwynt gorau a mwyaf amrywiol yn ddaearyddol yn Ewrop, mwy na digon i gwrdd â thargedau ynni adnewyddadwy presennol
- Golyga datblygiadau technegol bod faint o allu’r gwynt y gellir ei ychwanegu at system drydan yn ddi-ben-draw
- Dylai cynllunwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau gynnwys cymunedau yn gynnar wrth ymgynghori â’r cyhoedd yn effeithiol, a rhaid rhoi sylw i’w pryderon; mae modd datrys llawer o faterion felly
- Gwynt ar y tir yw un o’r mathau rhataf o ynni adnewyddadwy, a byddai cynyddu’r cyflenwad i 20 y cant erbyn 2020 yn gynnydd bach iawn yn unig o ran cost i ddefnyddwyr, ac mae hynny’n cymharu’n dda â ffynonellau ynni eraill. Yn wir, wrth i brisiau tanwydd ffosil gynyddu ac wrth i dyrbinau gwynt ddod yn rhatach i’w hadeiladu, gall pŵer gwynt ddod hyd yn oed yn un o’r ffurfiau rhataf o gynhyrchu trydan dros y 15 mlynedd nesaf
- Bydd pŵer gwynt yn disodli gweithfeydd sy’n cael eu gyrru gan danwydd ffosil, ac nid oes angen gweithfeydd ‘ategol’ un pwrpas i ymdopi â gwynt
- Mae ffermydd gwynt wedi bod ar eu mwyaf llwyddiannus lle mae perthynas weithio dda
Gan gynnig sylwadau yn rhagair yr adroddiad, dywed Syr Tom Blundell, cyn Gadeirydd y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol: “Rwy’n falch sylwi bod adroddiad yr SDC yn cadarnhau mai’r gwynt yw’r rhataf ac un o adnoddau adnewyddadwy mwyaf toreithiog y DU. Yn ôl prisiau presennol nwy, ac yn sicr os oes credyd i’w roi am ei statws di-garbon yn unol ag amcangyfrifon y Llywodraeth o gost gymdeithasol carbon, mae eisoes yn cystadlu o ran cost â thrydan sy’n cael ei danio gan nwy ar y safleoedd gwynt gorau ar y tir, ac ymddengys yn debygol mai hwn fydd y rhataf o’r holl ffurfiau o gynhyrchu pŵer erbyn 2020 ar safleoedd felly, hyd yn oed heb gredyd carbon”.
Un enghraifft yn yr adroddiad yw Moel Moelogan yng Ngogledd Cymru, y prosiect cyntaf o’i fath sy’n eiddo i’r gymuned, ac sy’n cael ei redeg gan dri ffermwr yn Sir Gonwy, Gogledd Cymru, a wynebodd ostyngiad sydyn mewn incwm ffermio yn dilyn yr argyfwng BSE. Codwyd nifer o faterion mewn ymgynghoriad cyhoeddus, ac arweiniodd hynny at newidiadau sylweddol, gan gynnwys gostwng uchder y tyrbinau o 60m i 50m a phedwar prif newid safle.
- Mae’r adroddiad yn rhad ac am ddim, a gellir ei archebu drwy wefan yr SDC
- Hefyd, mae ail fersiwn, llawer byrrach, o’r adroddiad - i gartrefi - ar gael
- Mae’r wefan yn dangos fforwm symlach ar-lein i bobl gynnig sylwadau ar yr adroddiad.
» Ynni Gwynt - ateb eich cwestiynau (PDF)