Gwneud Cynnydd yn Gyflymach Ymateb Cryno’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy

Y llynedd, heriodd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (y Comisiwn) y Llywodraeth i gymryd camau mwy pendant mewn 20 maes allweddol wrth bennu ei blaenoriaethau a’i hamcanion ar gyfer adolygu ei Strategaeth Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 1999. Nodwyd yr heriau hyn yn ein cyhoeddiad ym mis Ebrill 2004 o’r enw Shows Promise. But must try harder a oedd wedi’i seilio ar adolygiad o gynnydd y Llywodraeth ar ddatblygu cynaliadwy ers 1999. Mae’r Llywodraeth wedi ceisio mynd i’r afael â’r heriau hynny yn y Fframwaith newydd a Strategaeth y DU ac yn sicr mae wedi addo gwneud mwy o ymdrech. Cafodd y Strategaeth ei gwella’n sylweddol ac mae’n gam gwirioneddol ymlaen yn y broses o gyflawni’r newidiadau rydym am eu gweld er mwyn sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn fwy o realiti na mytholeg.

Yn y crynodeb hwn ceir trosolwg o Fframwaith Cyffredin y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a golwg sydyn ar beth yw cryfderau Strategaeth Llywodraeth y DU yn ein barn ni, beth yw’r heriau allweddol sy’n ein hwynebu yn ein barn ni, a’r meysydd rydym am weld y Llywodraeth yn gweithredu arnynt NAWR!


Fframwaith Cyffredin y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

One future - different paths yw Fframwaith Cyffredin y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy sy’n cynnwys gweledigaeth, egwyddorion a dangosyddion Cyffredin ar gyfer hyrwyddo themâu blaenoriaeth Cyffredin, a thrwy hynny, cydnabyddir fod heriau a nodau cyffredin o hyd.

Fel corff i’r DU rydym yn croesawu’r broses o sefydlu fframwaith strategol ledled y DU sy’n cynnig cyfeiriad cadarn a diben unedig i Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig. Bydd hyn yn arwain eu strategaethau datblygu cynaliadwy, unigol, eu hunain. Bydd y set o ddangosyddion craidd, cyffredin yn galluogi’r broses o fonitro a chofnodi cynnydd yn y DU er mwyn gallu cynnal archwiliad effeithiol yn y wlad hon yn ogystal ag yn erbyn ymrwymiadau rhyngwladol.

Erbyn hyn, mae gan y Gweinyddiaethau Datganoledig brofiad ym maes gweithredu ymagweddau newydd tuag at ddatblygu cynaliadwy ac mae ganddynt gyfraniad unigryw a sylweddol i’w wneud.

Yn yr Alban:
Rydym yn croesawu ymrwymiad Gweithrediaeth yr Alban i ymgynghori ynglŷn â strategaeth datblygu cynaliadwy newydd yr Alban a’i rhoi ar waith yn ystod 2005. Byddwn yn cefnogi’r broses hon.

Yng Nghymru:
Rydym yn falch o dderbyn gwahoddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyfrannu at ei hadroddiadau blynyddol ar gynnydd wrth weithredu Cynllun Datblygu Cynaliadwy’r Cynulliad a’i Chynllun Gweithredu.

Yng Ngogledd Iwerddon:
Rydym yn cefnogi nod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i lansio ei strategaeth datblygu cynaliadwy a’i dangosydd ategol a bennwyd yn 2005 a byddwn yn gweithio gyda hwy i hyrwyddo hyn.

Bydd y Comisiwn yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig, yn unigol, ac ar y cyd, yn gwneud cyfraniad effeithiol i ddatblygu cynaliadwy. Mae’n bwysig eu bod yn cydweithio i gyflawni’r nodau Cyffredin.

Strategaeth Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth y DU – Diogelu’r Dyfodol

Rydym wedi nodi 250 o ymrwymiadau newydd neu sylweddol yn Strategaeth 2005. Rhestrir y rhain ar ein gwefan yn www.sd-commission.org.uk.

Y Cryfderau

1. Sefydlu Datblygu Cynaliadwy yn flaenoriaeth drawsbynciol i’r Llywodraeth a’r DU
Heriwyd y Llywodraeth gennym i greu Strategaeth newydd a oedd yn cyflwyno undod o ran datblygu cynaliadwy, fel rhan graidd o raglenni adrannol, ac a oedd yn amlwg yn cael ei harwain o’r canol. I ddangos hyn, teimlwyd ei bod yn hanfodol i’r Llywodraeth brif ffrydio egwyddorion y Strategaeth ym mhob polisi ac arfer ac ar bob lefel a phob rhan o’r Llywodraeth i ddylanwadu ar ei blaenoriaethau a’i phroses o ddyrannu adnoddau.

Mae’r Strategaeth yn gwneud dechrau da drwy ymrwymo i:

· Weledigaeth newydd ledled y DU ar gyfer datblygu cynaliadwy. Mae Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig wedi cytuno ar nod newydd i’r fframwaith ar gyfer datblygu cynaliadwy. Mae hwn yn datblygu amcanion Strategaeth 1999, ond yn ceisio sicrhau yr anelir at nodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar yr un pryd ac nid ar nodau ar hap. Bydd yn hanfodol cymryd camau i gyflawni’r weledigaeth er mwyn sicrhau llwyddiant y Strategaeth.

· Egwyddorion datblygu cynaliadwy newydd sy’n uno. Defnyddir y rhain wrth lunio pob polisi ledled y DU. Yn arwyddocaol, mae’r rhain yn cydnabod yr angen i weithredu o fewn terfynau amgylcheddol.

· Set newydd o ddangosyddion datblygu cynaliadwy ledled y DU. Bydd y rhain yn rhoi gwell darlun i ni o feysydd lle y mae angen i ni weithredu arnynt a byddant yn nodi materion fel anghydraddoldebau iechyd. Mae’r Comisiwn yn arbennig yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu dangosydd lles ac i ymchwilio i ffyrdd o asesu effeithiau byd-eang y DU yn well.

· Cynlluniau gweithredu ar Ddatblygu Cynaliadwy i bob adran o’r Llywodraeth erbyn 2005. Bydd yn ofynnol i adrannau a’u hasiantaethau gweithredol gynhyrchu cynlluniau gweithredu yn nodi sut y maent yn bwriadu gweithredu’r ymrwymiadau yn y Strategaeth a chyflwyno adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y rhain. Mae’r Comisiwn am weld Gweinidogion y Cabinet a’r Gweinidogion Gwyrdd sy’n gyfrifol am y cynlluniau hyn yn atebol am eu cynnydd.

· Dyletswyddau Datblygu Cynaliadwy: Mae’r Strategaeth yn rhwymo’r Llywodraeth i gymhwyso dyletswyddau datblygu cynaliadwy i bob corff newydd a phob corff presennol fel y bo’n briodol – mae hwn yn arwydd gwych bod y Llywodraeth o ddifrif. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cymhwyso dyletswyddau datblygu cynaliadwy i gyrff cyhoeddus allweddol fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Awdurdod Llundain Fawr i sicrhau bod eu polisïau yn gyson â datblygu cynaliadwy.

2. Arwain drwy esiampl
Er mwyn dangos ei bod o ddifrif am weithredu, bydd yn rhaid i’r Llywodraeth fyw ei phroffes ei hun a rhoi cynaliadwyedd ar waith. Nid oedd cyd-berchenogaeth o Strategaeth 1999 a dim ond ychydig a oedd yn ei hyrwyddo. Heriwyd y Llywodraeth gennym i sicrhau bod pob Adran ganolog yn rhoi arweiniad clir, cadarn a chyson ar ddatblygu cynaliadwy ar draws y Llywodraeth a chymdeithas.

· Caffael Cyhoeddus Cynaliadwy
Mae’r Strategaeth yn pennu nod i’r DU gael ei chydnabod ymhlith yr arweinwyr ym maes datblygu cynaliadwy ledled aelod wladwriaethau’r UE erbyn 2009. Ystyria’r Comisiwn hyn yn gyfle allweddol i’r Llywodraeth ennyn cefnogaeth byd busnes, trawsnewid marchnadoedd, a lleihau allyriadau carbon. Sefydlir Tasglu Caffael Cynaliadwy newydd a arweinir gan fusnesau, a fydd yn dyfeisio cynllun gweithredu cenedlaethol newydd. Gobeithiwn y bydd y cynllun gweithredu yn pennu cerrig milltir clir, mesuradwy tuag at gyflawni targed 2009.

· Gwrthbwyso carbon
Bydd Defra, yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn gweithio gyda’i gilydd yn 2005 i dreialu’r broses o wrthbwyso allyriadau carbon deuocsid o deithiau awyr swyddogol a cheisio cynorthwyo prosiectau sy’n helpu i leihau ein galw am garbon. Mae hwn yn gam cyntaf da tuag at lywodraeth sy’n niwtral o ran carbon.

Blaenoriaeth i’w Gweithredu NAWR!:
Gall pob adran o’r Llywodraeth ddechrau gwrthbwyso allyriadau carbon deuocsid a gynhyrchir o’u teithiau awyr yn ogystal â’r rheini o holl gyfarfodydd y G8 a’r UE a gynhelir o ganlyniad i Lywyddiaethau’r DU.

3. Dechrau mynd i’r afael â rhai materion anodd

· Ymrwymiad Cymunedol
Mae’r Comisiwn am weld y Strategaeth yn cael ei defnyddio i gael rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cymunedau a’r cyhoedd ehangach i fod yn rhan o’r newidiadau sydd eu hangen, gan gydnabod bod gan bob rhanddeiliad ran i’w chwarae wrth gyflwyno’r Strategaeth. Mae’r Strategaeth yn nodi sut y mae’r Llywodraeth yn mynd i fabwysiadu ymagwedd fwy gweithredol tuag at agweddau ac arferion newidiol yn hytrach na dibynnu ar ddulliau traddodiadol o ran rheoliadau a gwybodaeth. Rydym yn croesawu menter Cymuned newydd 2020 y Strategaeth – Together We Can. Nod y fenter hon yw adfywio gweithredu cymunedol ar ddatblygu cynaliadwy drwy roi cymorth ymarferol a chyfleoedd i ymrwymo. Mae’r Strategaeth hefyd yn cydnabod rôl hanfodol addysg wrth sicrhau bod gennym y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i roi cynaliadwyedd ar waith.

Blaenoriaeth i’w gweithredu NAWR!:
Gall Prif Weinidog y DU roi ei ymrwymiad i adfywio gweithredu cymunedol ar ddatblygu cynaliadwy ar waith, er enghraifft drwy alw am gynhadledd yn cynnwys Prif Weithredwyr pob Awdurdod Lleol i sicrhau arweinyddiaeth gadarn ar lefel leol.

· Dulliau Cynhyrchu a Defnyddio Cynaliadwy (SCP)
Mae angen newid ein patrwm presennol o gynhyrchu a defnyddio os ydym am gyrraedd ein targedau o ran newid yn yr hinsawdd a lleihau faint o wastraff a gynhyrchir. Mae’r Comisiwn yn dadlau y dylai SCP fod yn elfen ganolog o’r Strategaeth newydd ac rydym yn falch iawn ei bod yn un o bedair thema blaenoriaeth y Strategaeth.

Bydd Tasglu Busnes SCP newydd yn datblygu syniadau ar gyfer camau gweithredu ymarferol. Bydd hyn yn ategu gwaith Bord Gron Defnyddio Cynaliadwy y Comisiwn/NCC ar y cyd, y bwriedir cyflwyno adroddiad arno ym mis Mawrth 2006. Bydd angen i’r Llywodraeth wneud mwy na nodi ei hargymhellion os yw am wneud cynnydd yn y maes hwn. Rydym yn disgwyl i’r Adran Masnach a Diwydiant, Defra a Thrysorlys ei Mawrhydi weithio gyda’i gilydd i sefydlu targedau newydd ac amserlenni mwy caeth i gyflawni’r newid i gynnyrch a dulliau cynhyrchu mwy cynaliadwy ar gyfer llawer o gynnyrch a phrosesau blaenllaw.

· Trethiant
Mae’r Strategaeth yn cydnabod rôl cymhellion, gan gynnwys trethi amgylcheddol i gyflawni ei nodau. Bydd Trysorlys Ei Mawrhydi yn gwerthuso’r polisi treth amgylcheddol ar gyfer y Gyllideb yng ngoleuni’r Strategaeth hon.

Blaenoriaeth i’w Gweithredu NAWR!:
Dylai’r Canghellor sicrhau y caiff effaith holl fesurau ei Gyllideb eu hasesu o safbwynt cynaliadwyedd – ac nid y mesurau â chymhelliant amgylcheddol yn unig.

4. Cadarnhau’r hyn a gyflawnwyd

Roedd strategaeth 1999 yn llawn bwriadau da ond mae heb ei gweithredu i raddau helaeth. Y geiriau allweddol ar gyfer y Strategaeth newydd hon yw cyflawni a gweithredu ac mae’r Comisiwn am ei gweld yn cael ei gweithredu’n drylwyr a’i monitro’n effeithiol.

· Rôl ychwanegol i’r Comisiwn
Mae’r Strategaeth yn ymrwymo i rôl fwy cadarn i’r Comisiwn wrth ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei chynnydd yn erbyn Datblygu Cynaliadwy. Rydym yn croesawu’r rôl newydd hon yn fawr iawn, a’r cyfle i sicrhau fod i strategaeth hon bwerau o’r dechrau.

· Sicrhau dogfen ‘fyw’
Mae dulliau cyfathrebu a chysylltu yr un mor bwysig â chynnwys y Strategaeth. Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i gynnwys rhanddeiliaid yn uniongyrchol yn y broses o ddatblygu’r Strategaeth. O ddiwedd 2005 bydd y Llywodraeth yn treialu ffyrdd agored ac arloesol o alluogi rhanddeiliaid i ddylanwadu ar ei phenderfyniadau ynglŷn â’r mathau o brosiectau a fyddai’n cyflawni nodau’r strategaeth. Bydd yn rhaid i’r Llywodraeth sicrhau y caiff safbwyntiau rhanddeiliaid eu hystyried yn llawn a’i bod yn osgoi mynegi cefnogaeth ond methu â gweithredu.

Heriau’r Dyfodol

· Newid yn yr Hinsawdd: Nid yw’r Strategaeth wedi achub y blaen ar yr adolygiad o’r Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd y bwriedir ei chwblhau yn ddiweddarach eleni. Nod y Comisiwn fydd sicrhau bod yr adolygiad yn ymdrin â’r thema allweddol hon yn y Strategaeth.

· Trafnidiaeth: Mae’r Strategaeth yn arbennig o wan ar fesurau cynhwysfawr ar gyfer mynd i’r afael ag effeithiau negyddol trafnidiaeth. Mae angen talu sylw i’r rhain ar frys os ydym am wella symudedd gyda llai o dagfeydd a llygredd awyr.

· Hyrwyddo penderfyniadau “gwario i arbed” synhwyrol: Mae’r rheolau cyfrifyddu presennol yn gwahardd adran rhag buddsoddi mewn technoleg sy’n defnyddio ynni’n effeithlon un flwyddyn, gan elwa ar y manteision hynny dros sawl un arall, a defnyddio’r arbedion hynny ar gyfer rhagor o fesurau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Mae’r Comisiwn am weld Trysorlys Ei Mawrhydi’n ymchwilio i sut y gall ddiwygio’r gweithdrefnau presennol i helpu.

· Rhesymoli strwythurau rhanbarthol: Mae’r dulliau rhanbarthol presennol ar gyfer llywodraethu a chyflwyno polisïau yn gymysglyd ac mae angen eu rhesymoli er mwyn sicrhau’r cydlyniad sydd ei angen i anelu at ddatblygu cynaliadwy drwy’r holl ranbarthau. Ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn yn adolygu’r trefniadau cyffredinol ar gyfer cyflwyno datblygu cynaliadwy yn y rhanbarthau gan gynnwys cysylltu â llywodraeth ganolog a rôl strategaethau a chyrff rhanbarthol pwysig. Byddwn yn gwneud argymhellion i’r Llywodraeth am wella effeithiolrwydd.

· Canolbwynt newydd ar les. Mae’r Strategaeth yn cydnabod nad yw twf economaidd o reidrwydd yn arwain at ansawdd bywyd gwell. Bu’r Comisiwn yn gofyn am ymagwedd wahanol iawn tuag at fesur cynnydd economaidd ers amser, ymagwedd sy’n cydnabod nad yw pob math o dwf economaidd yn cefnogi nodau amgylcheddol a chymdeithasol y Llywodraeth. Mae’n galonogol bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ddatblygu dangosydd lles ac i ymchwilio i’r graddau y gallai lywio newidiadau ym maes polisïau a gwariant.

· Rhoi’r weledigaeth a’r egwyddorion newydd ar waith. Mae’n rhaid i’r Strategaeth gysylltu ag Adolygiadau o Wariant, Cytundebau Gwasanaethau Cyhoeddus ac Asesiadau Cynhwysfawr o Berfformiad er mwyn taro tant ar draws y Llywodraeth.