NID YNNI NIWCLEAR WNAIFF DDATRYS Y BROBLEM

Wylfa Power StationNi ddylai Cymru gael unrhyw atomfa newydd ac fe ddylai hi fod yn arwain ym maes cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn ôl y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy.

Daw’r cyngor hwn ar sail adroddiad gan y Comisiwn sy’n dod i’r casgliad nad ynni niwclear yw’r ateb i daclo’r newid yn yr hinsawdd nac i ddiogelu’r cyflenwad.

Mewn ymateb i Adolygiad cyfredol y Llywodraeth o Ynni, mae adroddiad y Comisiwn ar ynni niwclear yn tynnu ynghyd y gronfa fwyaf cynhwysfawr o dystiolaeth sydd ar gael, ac yn gweld nad oes unrhyw gyfiawnhad dros gyflwyno rhaglen newydd o ynni niwclear ar hyn o bryd.

Meddai Comisiynydd Cymru, Rod Aspinwall: “Rydyn ni wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn astudio’r dystiolaeth ar ynni niwclear, ond wedi gweld bod ei anfanteision sylweddol yn drech na’i fanteision posibl. Rhaid i ni chwilio am atebion eraill i sialens y newid yn yr hinsawdd a her diogelu ynni. Am fod gennym ni gyfleoedd arbennig i ddatblygu grym y llanw, biomas ac ynni gwynt, dyma’r union amser i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod Cymru ar y blaen ym maes ynni glân ac adnewyddadwy.”

Ar sail wyth o bapurau ymchwil newydd, mae adroddiad y Comisiwn yn cyflwyno astudiaeth gytbwys o fanteision ac anfanteision ynni niwclear. Mae ei ymchwil yn cydnabod bod ynni niwclear yn dechnoleg carbon-isel a bod gan y diwydiant record drawiadol o ddiogelwch ym Mhrydain. Gallai prosesau niwclear gynhyrchu llawer iawn o drydan gan gyfrannu at sefydlogi allyriadau CO2 ac ychwanegu at yr amrywiaeth o gyflenwadau ynni sydd gan Brydain.

Ond hyd yn oed o ddyblu gallu presennol Prydain i gynhyrchu ynni niwclear, wnâi hynny gwtogi ond 8% ar allyriadau CO2 erbyn 2035 (a dim byd cyn 2010). Rhaid gosod hyn yn erbyn y risgiau.

Mae’r adroddiad yn nodi pum prif anfantais sydd i ynni niwclear:
1. Gwastraff tymor-hir – nid oes unrhyw ateb tymor-hir ar gael hyd yn hyn, heb sôn am ateb sy’n dderbyniol gan y cyhoedd; mae’n amhosibl gwarantu diogelwch gwaredu gwastraff yn y tymor-hir.

2. Y gost – mae economeg adeiladu gorsafoedd niwclear newydd yn hynod ansicr. Nid oes fawr o gyfiawnhad, os oes cyfiawnhad o gwbl, dros roi cymhorthdal cyhoeddus iddo, ond mae’n amlwg bod perygl mai’r trethdalwr fydd yn gorfod talu os bydd yr amcangyfrifon o’r costau yn cynyddu.

3. Diffyg hyblygrwydd – byddai ynni niwclear yn clymu Prydain wrth system ddosbarthu ganolog am yr hanner canrif nesaf, ar yr union adeg y mae’r cyfleoedd i ficro-gynhyrchu a chael rhwydweithiau dosbarthu lleol yn well nag erioed.

4. Tanseilio effeithlonrwydd ynni – byddai rhaglen niwclear newydd yn rhoi’r arwydd anghywir i ddefnyddwyr a busnesau am y byddai’n awgrymu mai trefniant technegol mawr a chyfleus yw’r cyfan y bydd ei angen. Bydd hynny’n gwanhau’r camau y mae angen eu cymryd ar frys i hybu defnyddio ynni’n fwy effeithlon.

5. Diogelwch rhyngwladol – os gwnaiff Prydain gyflwyno rhaglen newydd o ynni niwclear, ni allwn yn gyfreithlon amddifadu gwledydd eraill o’r un dechnoleg*. Am fod eu safonau diogelwch yn is, bydd mwy o risg iddynt gael damweiniau, o achosion o ryddhau ymbelydredd, o ymlediadau niwclear ac o ymosodiadau gan derfysgwyr.

Ar ôl pwyso a mesur, barn y Comisiwn yw bod y problemau hyn yn drech na manteision ynni niwclear. Er hynny, nid yw’r Comisiwn yn dweud na ddylid ymchwilio ymhellach i dechnolegau niwclear newydd a mynd ar drywydd atebion i broblem gwastraff. Gall datblygiadau technolegol yn y dyfodol gyfiawnhau ail-archwilio’r mater.

Dywed Cadeirydd y Comisiwn, Jonathon Porritt:
“Mae’n hanfodol bwysig i ni fynd i’r afael â chymhlethdod ynni niwclear. Yn rhy aml o lawer, mae’r ddadl wedi’i pholareiddio lawer iawn wrth i gyrff anllywodraethol honni na welan nhw unrhyw fantais o gwbl i ynni niwclear ac i’r lobi sydd o blaid ynni niwclear honni mai dyma’r unig ateb sydd ar gael i ni.

“Yn hytrach na rhuthro i gasgliad parod (fel yr ofna llawer o bobl fod y Llywodraeth yn benderfynol o’i wneud), rhaid i ni astudio’r dystiolaeth. Does fawr o bwynt gwadu bod i ynni niwclear ei fanteision, ond yn ein barn ni mae’r anfanteision difrifol yn drech na nhw. Mae’r Llywodraeth yn mynd i orfod rhoi’r gorau i chwilio am ateb rhwydd i’r newid yn ein hinsawdd ac i’n hargyfyngau ynni – does dim un.”

Wrth gloi drwy gynnig cyngor ynghylch strategaeth ynni at y dyfodol, mae adroddiad y Comisiwn yn dangos bod modd diwallu anghenion ynni Prydain heb droi at ynni niwclear. O gyfuno strategaeth i arloesi dulliau carbon-isel ag ehangu cyflym ar effeithlonrwydd ynni a ffurfiau adnewyddadwy, gallai Prydain arwain ym maes technolegau carbon-isel. Byddai hynny’n cynyddu ei chystadleurwydd economaidd ac yn diwallu ei hanghenion at y dyfodol yr un pryd.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

- Ar hyn o bryd, atomfa’r Wylfa ym Môn yw’r unig atomfa sydd ar waith yng Nghymru, a’r bwriad yw ei datgomisiynu yn 2010. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gofyn i’r Adran Masnach a Diwydiant am i’r atomfa gael aros ar agor am gyfnod pellach am mai hi sy’n darparu’r trydan i’r ffatri anferth sy’n smeltio alwminiwm ar yr ynys. Canlyniad cau’r ffatri smeltio alwminiwm fyddai colli rhyw 1,500 o swyddi mewn ardal lle mae’r economi lleol gyda’r tlotaf ym Mhrydain. Hoffai Llywodraeth y Cynulliad weld ychwanegu dwy flynedd at oes yr Wylfa. Mae’r Comisiwn yn cefnogi’r estyniad i atomfa’r Wylfa am ei fod o’r farn fod hynny’n ddiogel ac yn ddarbodus. Ni fyddai’r Comisiwn yn cefnogi codi’r un atomfa newydd yng Nghymru nac mewn unrhyw ran arall o Brydain.

- Mae adolygiad y Comisiwn o ynni niwclear, papurau’r ymchwil a’r cyfweliad sain â Jonathon Porritt ar gael i’w llwytho i lawr yn www.sd-commission.org.uk//pages/is-nuclear-the-answer.html#nuclearpubs.

- Mae’r Comisiwn wedi treulio blwyddyn yn casglu tystiolaeth ac yn cytuno ar ei farn am ynni niwclear.

- Mae’r broses o ddatblygu barn y Comisiwn ar ynni niwclear wedi bod yn drylwyr ac yn dryloyw. Yn ystod y broses honno, fe nododd y Comisiwn fod tair barn wahanol ar ynni niwclear: barn 1 – NA, barn 2 – NID AR HYN O BRYD, barn 3 - EFALLAI.
Pleidleisiodd y Comisiynwyr fel a ganlyn: wyth Comisiynydd o blaid barn 1, pump o blaid barn 2, a dau o blaid barn 3.
Disgwyliwn i’r Llywodraeth, fel rhan o’r Adolygiad cyfredol o Ynni, fynd drwy broses benderfynu debyg, ac fe’u cynghorwn i fod yr un mor dryloyw.

- Seilir adolygiad y Comisiwn o ynni niwclear ar wyth papur ymchwil newydd
(mae’r ffeithiau allweddol i’w cael yn y crynodeb o’r gronfa o dystiolaeth sydd ynghlwm):

1. Cyflwyniad i ynni niwclear – y cyd-destun o ran gwyddoniaeth, technoleg a pholisi Prydain, gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy

2. Cwtogi ar allyriadau CO2: ynni niwclear a’r dewisiadau eraill, gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy

3. Effaith ynni niwclear ar y dirwedd, yr amgylchedd a’r gymuned, gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy

4. Economeg ynni niwclear gan y Science & Technology Policy Research Unit (SPRU, Prifysgol Sussex) a NERA Economic Consulting

5. Gwastraff a datgomisiynu gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy gyda chyfraniadau gan Nirex ac AMEC NNC

6. Diogelwch a diogeledd gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy gyda chyfraniadau gan Large & Associates ac AMEC NNC

7. Canfyddiadau’r cyhoedd a materion cymunedol gan yr Athro Robin Grove-White, Dr Matthew Kearnes, Dr Phil Macnaghten a’r Athro Brian Wynne

8. Argaeledd adnoddau wraniwm gan Future Energy Solutions, un o adrannau gweithredol AEA Technology ccc

- Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yw cynghorydd a chyfaill beirniadol annibynnol y Llywodraeth ar ddatblygu cynaliadwy, a bydd yn cyflwyno’i adroddiadau’n uniongyrchol i’r Prif Weinidog a Phrif Weinidogion Cymru a’r Alban. Drwy eiriol, cynghori a chloriannu, mae’r Comisiwn yn helpu i osod Datblygu Cynaliadwy wrth galon polisi’r Llywodraeth.

I gael gwybod rhagor, neu gynnal cyfweliadau, ffoniwch Siân Howell ar 029 20764100 / 07977 924522, neu ebostiwch sian@equinox-pr.co.uk