Cam Ymlaen i’r GIG yng Nghymru

Cyfarfod cyntaf y grŵp llywio lefel uchel dros ddatblygu cynaliadwy i'r GIG yng Nghymru

Mae’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ail-ymgynnull ei grŵp llywio dros ddatblygu cynaliadwy yn y GIG yng Nghymru. Cadeirydd y grŵp yw Bob Hudson, y Cyfarwyddwr Strategaeth, ac fe gynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar y 17eg o Fawrth yng Nghaerdydd.

Mae aelodaeth y grŵp yn cynnwys cyrff megis Conffederasiwn y GIG yng Nghymru, CLlLC, y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, Ystadau Iechyd Cymru, a Caffael Gwerth Cymru. Mi fydd y grŵp yn cael ei hymestyn i gynnwys aelodaeth o’r gwasanaeth.

Ers lansio Cymru Iach Gynaliadwy ym Mawrth 2007, mae cyrff y GIG wedi body n datblygu cynlluniau gweithredu a pholisïau ar ddatblygu cynaliadwy. Mi fydd y gwaith yma yn gosod platfform ar gyfer datblygu rhaglen waith 2008/09 ar ddatblygu cynaliadwy.

Yn ystod y cyfarfod fe drafodwyd nifer o flaenoriaethau, gan gynnwys:

• Ymgorffori datblygu cynaliadwy i broses gynllunio a dangosyddion perfformiad y GIG

• Canolbwyntio ar allyriadau carbon yn lle ynni - tan yn ddiweddar, bu Ystadau Iechyd Cymru yn canolbwyntio ar bolisïau rheoli amgylcheddol. Mae polisi datblygu cynaliadwy Ystadau Iechyd Cymru yn awry n cael ei ail-ysgrifennu i adlewyrchu newid ffocws ei gwaith, hynny yw, yn edrych ar allyriadau carbon yr ystâd gyfan a’i gweithgaredd yn lle canolbwyntio ar ynni.

• Caffaeliad cynaliadwy - mae Caffael Gwerth Cymru wrthi’n gweithio ar amryw o ardaloedd a fydd yn effeithio ar gynaladwyedd y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys galluogi busnesau bach a gwledig i ennill cytundebau, a chynnig cyrsiau i gefnogi sefydliadau wrth ddatblygu fframwaith asesu caffael cynaliadwy ag asesiadau risg cynaliadwy

• Cyfathrebu - sicrhau gwell cyfathrebu ac ymgysylltu ar draws pob lefel o’r sector iechyd yng Nghymru er mwyn galluogi’r sector gyhoeddus i arwain drwy esiampl.

Mi fydd y grŵp yn cyfarfod eto ym Mehefin i ystyried y blaenoriaethau cynaladwyedd i’r gwasanaethau iechyd. Os oes gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â Hilary Neagle ar h.neagle@sdc.wales.ac.uk