Datblygwyd y pecyn cymorth gan Ystadau Iechyd Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Aelodau o Fforwm Iechyd Amgylcheddol Cymru a chydweithwyr sy'n gweithio i'r GIG yng Nghymru.
Mae diben pecyn cymorth teithio'r GIG yn syml - gwneud y gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau teithio sy'n benodol i safle mor hawdd â phosibl. Er mwyn cyflawni'r nod hwn mae'r pecyn cymorth yn darparu:
• Gwybodaeth am yr angen i gyflwyno cynlluniau teithio a buddiannau cysylltiedig;
• Canllawiau cam wrth gam ar bob cam o'r broses o ddatblygu cynllun teithio;
• Mynediad i gronfa ddata dadansoddi data a ddatblygwyd gan Paul Lewis, Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a Rhondda;
• Enghreifftiau, astudiaethau achos, templedi a dogfennau enghreifftiol i gynorthwyo'r broses ddatblygu;
• Canllawiau ar y ffordd orau o reoli'r broses o weithredu'r cynllun teithio gan gynnwys marchnata/cyflwyno'r cynllun a delio ag ymholiadau/cwynion;
• Dull monitro i helpu'r broses adolygu;
• Manylion am ddeunydd cyfeirio ac asiantaethau allanol a allai helpu i ddatblygu'r cynllun teithio a'i roi ar waith;
• Manylion am gyfleoedd ariannu a ffyrdd eraill lle y gall cydlynydd cynllun teithio 'dalu am eu hunain'