Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru heddiw (12/07/06) fod Peter Davies OBE wedi'i benodi yn Is-Gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru, gan olynu'r Athro Rod Aspinwall y daeth ei benodiad i ben ym mis Mawrth 2006. Bydd yn cychwyn ar ei swydd ar 3 Gorffennaf 2006; bydd y penodiad rhan amser yn para am dair blynedd.
Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yw'r corff annibynnol sy'n cynghori Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig ar ddatblygu cynaliadwy. Mae'r Comisiwn yn cyflwyno adroddiadau i'r Prif Weinidog a Phrif Weinidogion Cymru a'r Alban sy'n cytuno ar benodiadau ar y cyd.
Gwneir pob penodiad i'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy ar y cyd gan Whitehall a'r Gweinyddiaethau Datganoledig. Fel arfer, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig fydd yn arwain y broses ar ran pob un o'r pedair gweinyddiaeth fel y corff noddi ar gyfer y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy.
Ar hyn o bryd, mae Peter yn Ymgynghorydd Prosiect ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Busnes yn y Gymuned. Dechreuodd ei yrfa yn y sector addysg fel athro cyn iddo gael ei benodi yn Gyfarwyddwr CBI Education Foundation ar gyfer Ardal y De. Yn ddiweddarach, cafodd ei benodi gan yr Adran Masnach a Diwydiant i sefydlu'r Gwasanaeth Lleoli Athrawon Cenedlaethol. Yn ystod y cyfnod hwnnw y derbyniodd OBE mewn cydnabyddiaeth am ei waith.
Yn 1995, ymunodd Peter â Busnes yn y Gymuned y DU fel Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn ddiweddarach bu'n Ddirprwy Brif Weithredwr. Arweiniodd rôl ymgyrchu'r sefydliad o ran gwella effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol busnesau a sefydlodd enw da yn rhyngwladol am ei waith ar gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Daeth Peter yn ôl i Gymru yn 2005 a sefydlodd y Project Development Partnership, cwmni ymgynghorol sy'n rhoi gwasanaeth ymgynghorol ar brosiectau i fusnesau, y llywodraeth a'r sector gwirfoddol. Mae Peter hefyd yn cydlynu gwaith Elusennau'r Tywysog yng Nghymru ac mae'n gadeirydd cangen Gorllewin Cymru o'r Sefydliad Materion Cymreig.
Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Carwyn Jones:
"Rwy'n falch iawn bod y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, yn dilyn proses benodi gystadleuol iawn, wedi recriwtio Is-Gadeirydd arbennig i Gymru a fydd yn dod ag egni a brwdfrydedd i'r swydd. Mae'r agenda Datblygu Cynaliadwy yn un yr ydym yn bwriadu ei hadfywio. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Peter a'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy wrth inni geisio gwneud hynny.”