Edrych yn Ôl, ac Ymlaen i 2008
Prif rôl y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yw i gynghori’r llywodraeth ar bolisi, a chadw golwg annibynol ar eu cynnydd. Yn 2007 yng Nghymru, cymerodd gryn amser i’r gwaith o lywodraethu i gychwyn.
Roedd rhan gyntaf y flwyddyn yn nodweddiadol o weinyddaeth yn nesáu at ddiwedd ei thymor, gyda’r ffocws ar bolisiau tuag at y maniffesto, a diffyg gallu i gynnig unrhyw ymrwymiad tymor hir. Yn dilyn hyn, gwelwyd ymgyrch etholiadol fer, gyda phob plaid yn codi materion gwyrdd, ac yna proses hir o drafod a chyfamodi tuag at sicrhau clymblaid. Diben hwn oll oedd rhaglen lywodraethu Cymru’n Un.
Felly, mewn gwirionedd, dim ond yn rhan olaf y flwyddyn y mae’r gwaith o lywodraethu wedi cychwyn yn ei hanterth, ac wrth edrych ymlaen, mae yna ffenest o dair blynedd cyn yn y daw’r broses ddemocrataidd ag etholiad ac adwy arall. Mi fydd y cyfnod presennol yma yn gritigol bwysig tuag at osod Cymru ar y ffordd tuag at ddyfodol cynaliadwy – ac fe gyniga hyn wrth sialens a chyfle ar yr un pryd i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn flaenllaw oll fydd yr angen i weld y llywodraeth yn daer wrth waredu amcanion Cymru’n Un sydd, i’w glod, yn gosod newid yn yr hinsawdd wrth galon ei agenda.
Y Comisiwn newydd ar Newid yn yr Hinsawdd fydd un o’r addewidion cyntaf, ac o bosib un o’r mwyaf pwysig, i gael ei gwireddu. Pan gyfarfu’r Comisiwn hwn am y tro cyntaf ym Mis Rhagfyr, fe wela gynrychiolaeth o’r holl bleidiau ac ar draws bob sector. Byddant yn cwrdd gyda nod cyffredin o sicrhau consensws tymor hir i ddelio â newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.
Fel corff newydd, mi fydd ei rôl a’i swyddogaeth yn datblygu dros amser, ond yn bennaf oll, mi fydd gofyn ar bob aelod o’r Comisiwn i arwain ei sectorau priodol a gweithio fel un i greu’r “gofod gwleidyddol” anghenrheidiol i sicrhau y gellir cymryd y penderfyniadau anodd sy’n anochel.
Fe adnabi adroddiad diweddar y CBI nad ellir delio â newid yn yr hinsawdd gan unrhyw un sector yn gweithio’n annibynol. Ry’m ni yn y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy hefyd wedi pwysleisio y bydd angen i lywodraeth, busnesau a chymunedau weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau newid effeithiol.
Gwelodd 2007 mwy o weithgaredd yn dod wrth fusnes a chymunedau nag wrth ymyrraeth uniongyrchol llywodraeth. Mae cwmnïau’n gynyddol wedi bod yn arwain y broses o addasu, er enghraifft drwy weithredoedd cwmnïau mawr megis M&S a BT, a hefyd cwmnïau llai yn y sector nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol – sector sy’n tyfu’n gyflym iawn.
Ar lefel gymunedol ry’m ni’n dechrau gweld tystiolaeth o “tipping point” yn ymddangos, gyda mentrau megis rhwydweithu ynni cymunedol, “transition towns”, a rhwydweithu megis Cynnal Cymru yn cefnogi ag ysgogi newid gwirioneddol mewn ymddygiad ac agweddau ar draws Cymru. Gobeithiaf y gwela 2008 “bwynt troi” wrth i’r mentrau hyn, ochr yn ochr a gweithgaredd gan y llywodraeth, gasglu momentwm tuag at y nod o weld ffordd o fyw gynaliadwy yn dod yn norm yng Nghymru.
Rhaid i’r llywodraeth sicrhau for ymgysylltu â’r egni yma ar draws cwmnïau a chymunedau yn flaenoriaeth – gan gefnogi a buddsoddi mewn cwmnïau a fydd yn sicrhau swyddi a ffyniant yn economi carbon isel y dyfodol, a chael gwared ar y rhwystrau i newid mewn ymddygiad.
Bydd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn cychwyn 2008 gyda tim cryf mewn swyddfa newydd ym Mhrifysgol Cymru. Ein ymrwymiad ni fydd i gynnig cyngor annibynol or radd flaenaf, yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, a sicrhau fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyflawni ei dyletswydd i ddatblygu cynaliadwy ar draws pob adran bolisi.
Wrth wraidd hyn oll fydd yr angen i datgarboneiddio ein system ynni, ac, wrth edrych yn ôl dros 2007, credaf y bydd ein hadroddiad ar ynni o’r llanw yn gadael cymynrodd hollbwysig tuag at ysgogi datblygiad ynni o lif llanw, morlynnoedd llanw ac wrth gwrs at osod fframwaith ar gyfer datblygiad posib morglawdd Hafren.
Mae’r ddadl ynghylch morglawdd Hafren yn symbylol bwysig yn ei hadlewyrchiad o’r sialens i ni fel cymdeithas a’n hagweddau? Y cwestiwn hollbwysig yw - oes gennym agwedd “ Gallwn wneud ar amod...” neu “Ni allwn wneud oherwydd..”
Fel Comisiwn, ein rôl ni yw i edrych ar brif faterion y dydd a gofyn y cwestiwn “Ydi hi’n bosib gwneud hyn mewn modd gynaliadwy?” ac yna “Sut gallwn ni wneud hwn yn gynaliadwy?” Mae yna wastad resymau sy’n rhwystro gan wneud penderfyniadau’n anodd neu’n gymhleth, ond rhaid i ni yn awr wneud penderfyniadau positif, a dechrau dweud gallwn – mi allwn ni ddarganfod ffordd i gyflenwi ynni cynaliadwy; fe allwn ni ddarganfod ffordd i ddatblygu tai sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy; a gallwn, mi allwn ni ddarganfod ffordd i gyflenwi bwyd lleol i bobl leol mewn modd cyfleus. Mae’r dystiolaeth yn dangos fod y cyhoedd yn meddu ar agwedd bositif, ac eu bod am wneud y “peth iawn” a chymryd opsiynau positif.
Rôl y llywodraeth yw i annog a galluogi pobl i wneud y dewisiadau hyn, a’u galluogi nid yn unig i wneud y dewis iawn, ond gwneud hwn hefyd yn ddewis rhwydd. Rhaid i’r llywodraeth hefyd arwain drwy esiampl – drwy ddewisiadau polisi, mentrau, a thrwy ei arferion fel prynwr a chyflogwr.
Mae Cymru’n Un yn gosod tagedau clir ac mae yna yn awr arweiniad clir a diwidrwydd yn dod wrth y Gweinidog dros Gynaliadwyedd, Jane Davidson. Canlyniad hwn yw fod yna argyfwng a brys dros y mater yn dod wrth y llywodraeth nad oedd yn bresennol rhyw 12 mis yn ôl, ac mae yna gyfle yn awr i’r llywodraeth i brysuro i yrru ymlaen y gweithgaredd sydd eisioes yn ei hanterth dan arweiniad cwmnïau a chymunedau. Croesawn apwyntiad Matthew Quinn i arwain yn adran Amgylchedd, Tai a Chynaliadwyedd wrth iddi edrych i wireddi ei chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer 2008.
Wrth i ni ddechrau blwyddyn newydd, hoffwn glywed wrthoch chi – sut all y Llywodraeth wneud yn dewis iawn yn ddewis rhwydd i chi yn 2008? Rhowch wybod i mi!
Ebost: Gofynnwch i'r Comisiynydd