Asesiad Rhanddeiliad ar y Diwydiant Awyrennau

Aeroplane flying over motorwayEr mwyn goleuo ein cyngor i lyowdraeth, rung Mawrth 2007 a 2008, fe alwodd yr SDC a’r IPPR cymysgedd wirioneddol gymysg o sefydliadau ynghyd i fapio eu barn a’u safbwyntiau ar hedfan a’i gyfraniad i ddatblygu cynaliadwy. Y gobaith hefyd oedd y byddai cynyddu dealltwriaeth rhanddeiliaid o safbwyntiau pobl eraill ar hedfan yn helpu i fwydo ei meddwl nhw, gan ein helpu ni i ddarganfod tir cyffredin.

Ymysg y cyfranogwyr a gymerodd rhan yn yr Asesiad Rhanddeiliaid oedd:

• Tua 20 o adrannau ac asiantaethau llywodraethol DU-gyfan
• Grwpiau dinasyddion megis Cyfeillion y Ddaear
• Cynrychiolwyr o fyd busnes gan gynnwys EastJet, BAA a Schroders

Yn ystod yr Asesiad Rhanddeiliaid fe gynhaliwyd 30 cyfarfod un-i-un, tri ymweliad safle a chwe gweithdy. I sicrhau fod y broses yn ddiduedd ac yn dryloyw, fe hwyluswyd ac fe werthuswyd tri gweithdy yn annibynnol. Fe gefnogwyd ac ariannwyd yr Asesiad gan sawl adran lywodraethol, asiantaethau llywodraethol a llywodraethau datganoledig.

Gellid lawr lwytho crynodeb o’r gwerthusiad annibynnol, y tender ar gyfer hwyluso’r gweithdai, trawsgrifiad a rhestr o gyfranogwyr o’r tri sesiwn isod.

» Dogfen dender
» Trawsgrifiad a rhestr of gyfranogwyr o’r cyfarfod gyda’r partneriaid comisiynu - 13eg Rhagfyr 2007
» Trawsgrifiad a rhestr o gyfranogwyr o Weithdy 1 - 30ain Ionawr 2008
» Trawsgrifiad a rhestr of gyfranogwyr o Weithdy 2 - 28ain Chwefror 2008
» Lawr lwythwch y gwerthusiad

Ymgynghoriad y Panel Datblygu Cynaliadwy ar Hedfan

Fe gynhaliodd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy ymgynghoriad gyda’n Panel Datblygu Cynaliadwy hefyd rhwng Gorffennaf a Medi 2007 . Fel arfer, cafwyd ymateb mewnweledol a phryfoclyd a oedd yn amhrisiadwy wrth fframio ein gwaith ynghylch hedfan.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am y Panel