![]() | Mae Chwalu’r patrwm cylchdroi: ymagwedd newydd at greu polisi ar hedfan yn y DU yn darogan for yna ddadl gyffredin ynghylch y data amgylcheddol, economaidd a thechnolegol sylfaenol ar deithio awyr yn y DU. Mae’r adroddiad yn casglu fod angen creu sylfaen dystiolaeth newydd sy’n sefydlu gwir effeithiau a buddiannau hedfan cyn y gellir gwneud unrhyw benderfyniadau ar ehangu meysydd awyr. |
Mae hedfan yn cynnig llawer o fuddiannau megis creu swyddi, cefnogi’r economi, a galluogi’r cyhoedd i fynd ar wyliau i brofi llefydd newydd a diwylliannau newydd. Ond, mae yna hefyd sawl anfantais, yn enwedig i’r bobl sy’n byw wrth ochr meysydd awyr. Mae hedfan hefyd yn gwneud cyfraniad mawr cynyddol i newid yn yr hinsawdd.
Er mwyn goleuo ein meddwl ar sut all hedfan gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy, fe gyflawnwyd asesiad rhanddeiliaid ar hedfan gan yr SDC a’r IPPR, gan gynnwys y diwydiant awyrennau, cyrff anllywodraethol, grwpiau dinasyddion a academia, llyowdraeth ac asiantaethau’r llywodraeth.
![]() |
Er hyn, dangosodd yr asesiad fod yna lawer o anghytuno ynghylch goblygiadau hyn i ddyfodol hedfan yn y DU. Roedd llawer o’r anghytuno hyn ynghylch y dystiolaeth mae’r llywodraeth yn ei ddefnyddio i oleuo eu penderfyniadau. Mae’r SDC a’r IPPR yn casglu fod yr anghytuno a’r ansicrwydd yma yn ddrwg i’r llywodraeth, y i'r diwydiant awyrennau ac i’r cyhoedd sy’n teithio ar awyrennau, a bod angen i’r llywodraeth wneud rhywbeth i leihau’r dryswch.
Mae ‘Chwalu’r patrwm cylchdroi' yn argymell y dylai’r llywodraeth sefydlu Comisiwn Arbennig ac annibynnol i geisio cael mwy o gytuno ar y dystiolaeth (yn enwedig ynghylch y buddiannau economaidd), ag i siarad â’r cyhoedd a rhanddeiliaid ynghylch y ffordd orau ymlaen o ran polisi.
Mae’r adroddiad yn rhybuddio’r llywodraeth y dylid oedi ag aros tan fod y papur gwyn ar deithio awyr wedi ei hadolygu cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar redfeydd newydd yn Stansted a Heathrow.
Dywed Hugh Raven, un o Gomisiynwyr y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy:
“Tan fod rhai cwestiynau sylfaenol wedi eu hateb, ni fyddwn mewn sefyllfa i allu gwneud penderfyniadau ar ddyfodol teithio awyr. Rhaid i’r llywodraeth gadw at ei ymrwymiad i wrando ar ddinasyddion a rhanddeiliaid, a gweithredu i sicrhau ei bod yn gwneud y penderfyniadau gorau phosib i bawb sy’n ymglymedig â’r mater.”
» Lawr lwythwch yr Adroddiad Llawn
» Lawr lwythwch y Grynodeb Weithredol