Newyddion Diweddaraf

Mai 2008

Sesiwn i arweinwyr y sector gyhoeddus yng Ngogledd Cymru

Wrth i'r SDC edrych ymlaen gyda rhaglen waith newydd yng Nghymru, cafwyd trafodaeth gydag arweinwyr y sector gyhoeddus yng Ngogledd Cymru i ystyried y materion allweddol i agenda datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Mawrth 2008

Cam ymlaen i'r GIG yng Nghymru

Mae’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ail-ymgynnull ei grŵp llywio dros ddatblygu cynaliadwy yn y GIG yng Nghymru.

Darllenwch mwy am y cyfarfod cyntaf a blaenoriaethau allweddol

Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy yng Nghymru

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi galw ar y CDC i edrych ar ymyriadau polisi a darparu map ffordd i alluogi pob adeliad newydd yng Nghymru i fod yn garbon sero. Mi fydd y gwaith hefyd yn edrych i weld sut all adeliadau gyfrannu at darged Cymru o ostyngiadau blynyddol o 3% yn ei allyriadau carbon.

Ar y 10fed o Fawrth, fe alwodd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, mewn partneriaeth a'r Comisiwn Dylunio Cymru, grwp o ddeiliaid diddordeb ynghyd i edrych ar feysydd gwaith allweddol a all arwain at newid yn yr amgylchedd wedi'u adeiladu yng Nghymru.

Chwefror 2008

Dyfodol Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru

Mae'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy wedi croesawi lansiad trywydd ynni adnewyddadwy cyntaf Cymru, gan alw ar y cyhoedd a rhanddeiliaid i chwarae eu rhan yn y drafodaeth.

Trywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru

Rhagfyr 2007

Edrych yn Ôl, ac Ymlaen i 2008

Prif rôl y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yw i gynghori’r llywodraeth ar bolisi, a chadw golwg annibynol ar eu cynnydd. Yn 2007 yng Nghymru, cymerodd gryn amser i’r gwaith o lywodraethu i gychwyn.

Darllenwch yr erthygl lawn

Tachwedd 2007

Lansiad Fframwaith Deithio'r GIG yng Nghymru

Fe ddatblygwyd y fframwaith gan y Welsh Health Estates mewn partneriaeth gydag eraill megus Consortia Deithio Llywodraeth Cynulliad Cymru, Fforwm Iechyd Amgylcheddol Cymru a chydweithwyr yn y GIG yng Nghymru.

Pwrpas y fframwaith yw i hwyluso datblygiad a gweithrediad cynlluniau teithio ar gyfer safleodd ar draws Cymru. I sicrhau'r nod yma, mae'r fframwaith yn darparu:

• Gwybodaeth ynghylch buddiannau a'rr rhesymau dros ddatblygu cynlluniau teithio;
• Canllaw ar gyfer pob cam o'r broses o ddatblygu cynllun teithio;
• Mynediad at ddata-bas ar gyfer dadansoddi data, a ddatblygwyd gan Paul Lewis o Ymddiriedolaeth GIG Rhondda a Pontypridd;
• Esiamplau, astidiaethau achos, patrymluniau a dogfennau i helpu'r broses o ddatblygu cynllun;
• Canllaw ar arfer dda wrth reoli gweithrediad cynllun teithio, gan gynnwys marchnata a cyfathrebu'r cynllun a delio a chwestiynnau a chwynion;
• Fframwaith fonitro i gefnogi'r broses o adolygu cynllun;
• Manylion am ddeunydd gyfeirio a chyrff allanol sy'n gallu helpu'r datblygiad o gynllun teithio;
• Manylion am gyfleodd cyllido a mecanwaith lle gellir sicrhau fod cydlynydd cynllun teithio yn 'talu am ei hunain'.