Cysylltiadau

Os hoffech i ni ychwanegu eich enw at ein cysylltiadau, neu os hoffech awgrymu cywiriad, anfonwch e-bost atom. Am wybodaeth ynglŷn â chysylltiadau ledled y DU, ewch i wefan DU y Comisiwn.

» Cynnal Cymru / Sustain Wales

Cwmni annibynnol dielw yw Cynnal Cymru-Sustain Wales sydd yn hybu datblygiad cynaladwy a darparu gwybodaeth ymarferol i’ch helpu i fyw’n gynaladwy.

» Llywodraeth Cynulliad Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. O fewn ei bwerau, mae’r Cynulliad yn datblygu polisïau ac yn cymeradwyo deddfwriaeth sy’n adlewyrchu anghenion pobl Cymru.

» NetRegs

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi datblygu NetRegs is fod yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy i fusnesau bach a chanolig ar ddeddfwriaeth amgylcheddol. Mae'r wefan yn hollol gyfrinachol ac ar gael i'w ddefnyddio yn rhad ac am ddim. Y bwriad fydd i'r wefan helpu i wella dealltwriaeth a galluogi gwell cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth.

» Addysg dros Ddatblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Crëwyd y wefan i rannu gwasanaethau, adnoddau a sefydliadau sy’n gweithio i ategu addysg dros ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang ledled Cymru.