Astudiaethau achos

Siopau Ffrwythau Ysgolion

Fruit Tuck ShopMae Tîm Iechyd Cyhoeddus Abertawe yn rhoi cymorth i ysgolion cynradd lleol i sefydlu siopau ffrwythau i hyrwyddo bwyta’n iach a sefydlu cysylltiadau â chyflenwyr a thyfwyr lleol, ac mae’n cysylltu ag elfennau bwyta’n iach a datblygu cynaliadwy’r cwricwlwm ysgol.
» Addrodiad (PDF)

System Reoli Amgylcheddol Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro

HospitalMae’r Ymddiriedolaeth GIG fwyaf yng Nghymru yn gweithio i wella ei chyfraniad i ddinasyddiaeth gorfforaethol dda drwy leihau ei heffeithiau amgylcheddol negyddol drwy system reoli’r amgylcheddol integredig a llwyddiannus.
» Addrodiad (PDF)

Cyflenwadau Iechyd Cymru

Welsh BeefMae Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-orllewin Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru yn arloesi model cadwyn gyflenwi newydd drwy weithio gyda Chyflenwadau Iechyd Cymru i sicrhau ymagwedd fwy cydweithredol a chynaliadwy tuag at gaffael cig, i ddechrau drwy ddefnyddio cig eidion Cymreig lleol.
» Addrodiad (PDF)

Strategaeth Cynaliadwyedd Integredig Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg

North Glamorgan TrustMae rheoli gwastraff cynaliadwy, cadwraeth ynni a phartneriaethau cymunedol yn elfennau allweddol o strategaeth cynaliadwyedd integredig Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg
» Addrodiad (PDF)

Prosiect Ynni Solar Ysbyty Bronllys

Bronllys Hospital eamYsbyty Bronllys yw’r ysbyty cyntaf yn y DU i osod paneli solar ar y to. Bydd hyn yn helpu i leihau llygredd a gollyngiadau carbon deuocsid, sy’n helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac yn arbed arian i’r ysbyty.
» Addrodiad (PDF)