Amdanom ni

Beth yw'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy?

“Yng Nghymru, mae gennym ymrwymiad gwirioneddol ymhlith y Gweinidogion; ein her yw cyflwyno datblygu cynaliadwy ar lawr gwlad” Peter Davies, Is-Gadeirydd a Chomisiynydd Cymru.

Y Comisiwn Datlblygu Cynaliadwy (CDC) Cymru yw corff ymgynghorol annibynnol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygu cynaliadwy. Mae'r Comisiwn yn atebol i Brif Weinidog Cymru ar faterion polisi allweddol megis llywodraeth leol, iechyd a thai. Mae hyn yn sicrhau y caiff yr holl waith a gynhelir ar ddatblygu cynaliadwy gydnabyddiaeth eang.  

Cysylltwch â ni

 

Ein Comisiynydd yng Nghymru...

Peter DaviesPeter Davies (OBE) yw'r Comisiynydd yng Nghymru i'r Comisiwn Datblygu Cynaliawy. Darllenwch amdano

  

Tim y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru

Stephen Brooks - Pennaeth CDC Cymru

s.brooks@sdc.wales.ac.uk

02920 376930

Stephen BrooksYmunodd Stephen â Chomisiwn Datblygu Cynaliadwy fel y pennaeth yng Nghymru ym mis Mawrth 2009, a chyn hynny ef oedd Pennaeth Oxfam Cymru. Mae ei gefndir yn y byd ymgyrchu a pholisi, ac mae wedi gweithio fel ymgynghorydd materion cyhoeddus ac ymchwilydd yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ac yntau’n gyn-lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, mae Stephen wedi byw yng Nghymru ers 1995.

Gavin Bunting - Uwch-ddadansoddwr Polisi

g.bunting@sdc.wales.ac.uk

029 2037 6978

Gavin BuntingMae Dr Gavin Bunting yn Uwch-ddadansoddwr Polisi, gan arwain y portffolio ynni a newid yn yr hinsawdd. Bu Gavin yn ddiweddar yn gweithio fel yr arbenigwr ar newid yn yr hinsawdd ar Raglen Datblygu y Cenhedloedd Unedig a chyn hynny bu’n Rheolwr Technium Technolegau Cynaliadwy, sef menter datblygu economaidd sy’n helpu busnesau ifanc sy’n seiliedig ar wybodaeth i droi eu syniadau yn gynigion sy’n fasnachol werthadwy. Rhwng 2001 a 2004 cwblhaodd Gavin PhD clodfawr mewn Peirianneg Deunyddiau i Airbus UK ym Mhrifysgol Abertawe.

Mike Williams - Swyddog Ymchwil

m.williams@sdc.wales.ac.uk

029 2037 6990

Mike WilliamsMae Mike wedi’i secondio i’r CDC am ddau ddiwrnod a hanner yr wythnos fel rhan o Grŵp Cymru Carbon Isel/Di-garbon. Mae’r Grŵp yn gweithio gyda sefydliadau partner a Llywodraeth Cynulliad Cymru i leihau’r allyriadau carbon o adeiladau. Ei rôl arall yw gweithio gyda Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) Cymru fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, gan ddarparu cyngor ac arweiniad dylunio ar gyflawni lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni yn achos adeiladau domestig a masnachol.  

Richard Nosworthy - Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

r.nosworthy@sdc.wales.ac.uk

02920 376971

Richard Nosworthy Penodwyd Richard yn Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu ym mis Chwefror 2009. Mae’n gyn-ohebydd ac wedi gweithio yn flaenorol fel Gohebydd Iechyd i ITV Cymru. Mae’n Gymro Cymraeg sydd wedi graddio mewn mathemateg ac fe’i magwyd yn Llandrindod, Powys.