We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy
Ymateb CDC Cymru i gyhoeddiad ariannu Defra
26 July 2010
Datganiad gan Comisiynydd CDC Cymru, Peter Davies
Wrth gyflwyno sylwadau ar ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i benderfyniad Defra i dynnu ei gyllid yn ôl o waith y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (CDC) yn Lloegr, dywedodd Comisiynydd y CDC dros Gymru, Peter Davies OBE:
"Er bod cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi fy siomi, rwy’n croesawu’r datganiad gan Lywodraeth y Cynulliad yn atgyfnerthu ei hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy a’i bwriad i ariannu’r Comisiwn yng Nghymru tan ddiwedd Mawrth 2011. Mae dyletswydd statudol ar Lywodraeth y Cynulliad i feddu ar gynllun sy’n nodi sut y bydd yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy, a’r llynedd fe ymrwymodd i wneud hynny’n ‘brif egwyddor drefniadol’ y llywodraeth yng Nghymru. Mae’r lefel barhaus o gefnogaeth i ddatblygu cynaliadwy yn fy nghalonogi’n fawr: a hynny ar draws pob plaid, ym myd busnes, ac mewn cymdeithas sifil.
“Fel yr amlygwyd yn ein hadroddiadau ‘Cymru Crbon Isel’ ac Adfywio Economaidd, mae gan Gymru set gymhleth o heriau i’w goresgyn yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae angen i ni leihau ein hallyriadau carbon yn gyflym ond yn deg, a helpu busnesau a chymunedau i addasu i’r newid yn yr hinsawdd; diogelu swyddi ledled Cymru mewn economi sy’n barod ar gyfer cyfleoedd a bygythiadau’r dyfodol; a gwella safonau a chanlyniadau gwasanaethau cyhoeddus pan fo cyfyngiadau ar gyllidebau.
“Bydd yn rhaid i Lywodraeth y Cynulliad wneud rhai dewisiadau anodd. Ni all y Llywodraeth ddatrys y problemau hyn ar ei phen ei hun: mae angen iddi gael ei herio a’i chefnogi. Datblygu cynaliadwy yw’r unig ddull a all reoli galwadau cymunedau, yr economi a’n hamgylchedd, sydd weithiau’n cystadlu â’i gilydd. Yn awr mae gan Gymru gyfle i ystyried pa drefniadau y mae eu hangen."
