We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy
Gall adnewyddu ar lefel cymdogaeth leihau costau a gwella cymunedau Cymru
23 July 2010
Mae prosiectau arloesol i wella cymunedau yng Nghymru wedi derbyn sylw gan y CDC yn ein hadroddiad newydd ‘Mae’r Dyfodol yn Lleol'.
Mae prosiectau arloesol i wella cymunedau yng Nghymru wedi derbyn sylw gan y CDC yn ein hadroddiad newydd ‘Mae’r Dyfodol yn Lleol'.
• Mae’r adroddiad yn dangos sut gellid torri cost gwelliannau gan 20-30%
• Mae’r CDC yn amlygu prosiectau ôl-ffitio Cymru
Mae prosiectau arloesol i wella cymunedau yng Nghymru wedi derbyn sylw gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (CDC) mewn adroddiad newydd sy’n amlygu arbedion cost a manteision eraill gwella elfennau megis effeithlonrwydd ynni, trafnidiaeth a mannau gwyrdd ar lefel cymdogaeth.
Yn ôl ‘Mae’r Dyfodol yn Lleol: Grymuso cymunedau i wella’u cymdogaethau' galluogi cymunedau i arwain prosiectau adnewyddu lleol ar draws y gymdogaeth yw’r dull mwyaf cost-effeithiol o sicrhau bod ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd yn addas at y dyfodol.
Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod grymuso cymunedau i flaenoriaethu, cyllido a chyflawni gwaith lleol angenrheidiol mewn modd integredig – o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi i uwchraddio mannau gwyrdd a gosod amddiffynfeydd rhag llifogydd a ffynonellau ynni adnewyddadwy – yn arbed arian trwy fanteisio ar ddarbodion maint, yn denu lefelau cyfranogiad uwch, ac yn amharu llai ar bethau trwy fynd i’r afael â gwaith gyda’i gilydd.
Mae’r adroddiad yn rhybuddio y bydd methu ag uwchraddio’n hisadeiledd lleol yn cael effaith negyddol ar bob rhan o’n bywydau, gan lesteirio’n gallu i ddelio â’r newid yn yr hinsawdd, anghenion tai a thrafnidiaeth yn y dyfodol, afiechyd a diweithdra.
Mae rhyw £380 miliwn o ynni’n cael ei wastraffu yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n wael, sydd â systemau gwresogi aneffeithlon neu wedi’u rheoli’n wael, ac sy’n defnyddio trydan yn ddiangen. Gall tai is na’r safon arwain hefyd at iechyd gwael, ac amcangyfrifir bod hynny wedi costio miliynau i’r GIG yng Nghymru. Dengys y dystiolaeth hefyd fod diffyg mynediad i fannau gwyrdd a llwybrau cerdded a beicio diogel yn cyfrannu at lefelau uchel o ordewdra ac afiechyd meddyliol.
Meddai Peter Davies, Comisiynydd y CDC dros Gymru:
"Mae pobl eisiau byw mewn mannau sy’n teimlo’n ddiogel, cartrefi sy’n fforddiadwy i’w gwresogi, a chymdogaethau sy’n gallu gwrthsefyll tywydd eithafol. Ac rydym ni’n gwybod bod mynediad i fannau gwyrdd, cysylltiadau trafnidiaeth da a llwybrau cerdded a beicio diogel yn gallu gwella’n hiechyd a’n lles a hyd yn oed ein cyfleoedd cyflogaeth. Mae dull integredig, yn hytrach na chanolbwyntio ar un mater megis y newid yn yr hinsawdd, yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl leol fod yn rhan o welliannau i’r gymdogaeth – a bydd yr ymwneud hwnnw hefyd yn cynyddu’r manteision tymor hir.
“Mae angen eglur am wella ein cymdogaethau yng Nghymru. O fethu â gweithredu, gallem wynebu costau anferth o ran tagfeydd traffig, trin iechyd gwael ac ymateb i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Ar adeg pan fo’r sefyllfa ariannol yn heriol, mae gweithio ar draws cymdogaethau cyfan mewn modd integredig yn cynnig ateb cost-effeithiol.
"Mae ein hadroddiad yn amlygu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn rhai cymunedau yng Nghymru, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Ganolfan dros Ragoriaeth Adfywio i sicrhau bod pob cymdogaeth yn medru elwa o welliannau cydlynus."
Mae’r enghreifftiau o bartneriaethau cymdogaeth llwyddiannus sydd eisoes yn gwella eu cymunedau, y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, yn cynnwys:
• Cynllun Partnera Caerdydd, a fu’n gwella effeithlonrwydd ynni rhyw 100 o gartrefi cymdeithasol a sector preifat a phum bloc o fflatiau. Canfu’r bartneriaeth y byddai prosiect cymdogaeth o leiaf 20% yn rhatach na gosodiadau unigol.
• Parth Carbon Isel Blaenau’r Cymoedd, strategaeth adfywio sy’n creu swyddi ac yn lleihau allyriadau carbon trwy uwchraddio’r tai sydd eisoes yn bodoli. Mae cynllun Arbed Llywodraeth Cynulliad Cymru, rhan allweddol o’r gwaith, yn cael ei efelychu mewn ardaloedd adfywio yng Nghanolbarth, Gogledd a Gorllewin Cymru.
» Lawrlwytho Crynodeb Gweithredol Mae’r Dyfodol yn Lleol (Cymraeg)
» Lawrlwytho’r adroddiad llawn (Saesneg)
