We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy
Rhestr Werdd Cymru 2010
15 June 2010
Ydych chi’n gwybod am arwyr gwyrdd? Os ydych, beth am eu henwebu ar gyfer Rhestr Werdd Cymru 2010, sydd yng ngofal ein chwaer sefydliad, Cynnal Cymru?
Dyma ail flwyddyn y rhestr, a roddodd gydnabyddiaeth yn 2009 i 52 o bobl a oedd yn rhoi ysbrydoliaeth – un ar gyfer pob wythnos o’r flwyddyn – drwy wneud pethau rhyfeddol i sicrhau bod Cymru’n well lle.
Mae pobl ledled Cymru’n cael eu hannog i enwebu arwyr lleol sy’n haeddu cael eu cydnabod am ymdrin â materion cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol a’u gwella yn eu cymunedau lleol.
Nid oes patrwm confensiynol ar gyfer yr enwebai perffaith. Gall ymgeiswyr amrywio o arweinwyr busnes i grwpiau cymunedol, o artistiaid i wleidyddion, o ymgyrchwyr i gyfarwyddwyr cwmni, aelodau staff neu hyrwyddwyr prosiectau. Gallent fod yn ymdrin â materion amgylcheddol neu gymdeithasol yn eu pentref neu eu tref eu hunain, ar lefel ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol.
Er bod y fenter yn cynnwys yr elfen ‘werdd’, nid yw’r chwilio wedi’i gyfyngu i grwpiau amgylcheddol.
Peter Davies, Comisiynydd y CDC yng Nghymru, fydd un o’r beirniaid unwaith yn rhagor, ac mae’n annog pobl o bob rhan o Gymru i gyflwyno enwebiadau:
“Mae hwn yn brosiect gwych ac rwy’n gyffrous i weld pwy fydd ar y rhestr eleni. Er ein bod ni fel comisiwn yn helpu’r llywodraeth i weithio’n fwy cynaliadwy, mae gan bawb rôl i’w chwarae i sicrhau bod Cymru’n lle gwell i fyw ynddo. Un peth sy’n gwneud Rhestr Werdd Cymru’n arbennig yw ei bod yn cydnabod pobl sy’n cofleidio holl ystod datblygu cynaliadwy – helpu cymdeithas, yr amgylchedd neu’r economi. Rwy’n annog pawb yng Nghymru i enwebu eu harwyr gwyrdd ar gyfer 2010.”
Cliciwch yma i ddarllen am y rhai oedd ar y rhestr y llynedd. Gallwch gyflwyno enwebiadau ar-lein yn sustainwales.com tan 17 Medi 2010. Bydd y panel beirniaid yn dewis 52 o bobl sy’n ysbrydoli i’w cynnwys yn Rhestr Werdd Cymru 2010.
