We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy
Y CDC yn cytuno ar waith yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn sy’n dod
15 June 2010
Mae’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy wedi cytuno ar gynllun cyflawni ar gyfer ei waith yng Nghymru yn 2010-11, sy’n canolbwyntio ar y prif heriau mae’r llywodraeth yn eu hwynebu ac yn cyfateb i’w waith yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Bydd y Comisiwn yn gweithio o dan bum thema:
- Trosglwyddo i economi gynaliadwy
- Creu mannau cynaliadwy
- Gwneud y Llywodraeth yn fwy cynaliadwy
- Lles
- Galluogi bywydau mwy cynaliadwy
Bydd peth o’r gwaith yn dilyn ymlaen o waith y Comisiwn yn 2009-10. Mae hyn yn cynnwys parhau i weithio gyda grwpiau ardal Cynllun Gofodol Cymru ar Brosiect y Rhanbarthau Carbon Isel, cefnogi Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a chefnogi’r Grŵp Carbon Isel/Digarbon i helpu i leihau allyriadau carbon o adeiladau. Byddwn hefyd yn cynnal ail asesiad o gynaliadwyedd amgylcheddol ystâd Llywodraeth y Cynulliad ac yn cynhyrchu sylwebaeth ar gyfer Adroddiad Blynyddol Llywodraeth y Cynulliad ar Ddatblygu Cynaliadwy.
Bydd yr economi’n rhan arall bwysig o’n gwaith yn ystod y flwyddyn sy’n dod, a byddwn yn cyfrannu at Raglen Adnewyddu Economaidd Llywodraeth y Cynulliad fel rhan o hyn.
Meddai Peter Davies, Comisiynydd y CDC yng Nghymru:
“Rydym yn falch ein bod wedi cytuno ar gynllun ar gyfer y flwyddyn sydd o’n blaenau a fydd yn helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf brys y mae Cymru’n eu hwynebu. Rydym ni’n awyddus i weld Llywodraeth y Cynulliad yn llwyddo i fabwysiadu datblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol, yn enwedig o ystyried y pwysau ar gyllid cyhoeddus a’r angen am sicrhau mwy am ein harian. Gan ddefnyddio’n rôl unigryw fel ymgynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cynulliad Cymru, ein nod yw helpu i ddarparu gwell ansawdd bywyd i bobl yng Nghymru yn awr ac yn y tymor hir.”
