Newyddion

Y CDC yn dweud bod ‘angen cefnogaeth gref a pharhaus’ ar y siarter

15 Mehefin 2010

Lansiad y Siarter / Charter launchMae’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy wedi llofnodi siarter newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ‘Byw Un Blaned’, ac mae’n annog Llywodraeth y Cynulliad i ddarparu cefnogaeth barhaus a fydd yn sicrhau ei bod yn llwyddiannus yn y tymor hir.

Lansiwyd y Siarter Datblygu Cynaliadwy gan Weinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson, yng Ngŵyl y Gelli. Peter Davies, Comisiynydd y CDC yng Nghymru, lofnododd y siarter ar ran y Comisiwn, gan ymuno â’r 21 sefydliad arall a oedd yn llofnodwyr cyntaf.

Gofynnir i sefydliadau lofnodi her flynyddol yn nodi sut byddant yn parhau i ymgorffori datblygu cynaliadwy yn eu gweithrediadau. Maent hefyd yn ymrwymo i gynnwys y bobl a’r cymunedau y bydd eu penderfyniadau yn effeithio arnynt, a chysylltu â hwy, fel bod gweithio mewn partneriaeth dros ddatblygu cynaliadwy yn dod yn rhan annatod o’u dull o weithio.

Dywedodd Peter Davies fod y CDC yn cefnogi nodau’r siarter ac yn gobeithio y bydd llawer o sefydliadau eraill yn ei llofnodi:

“Gallai wneud gwahaniaeth mawr petai llawer o sefydliadau’n ymrwymo i hyn ac yn cyflawni newidiadau go iawn o ganlyniad. Ni allwn gymryd hynny’n ganiatol, a bydd angen cefnogaeth gref a pharhaus gan Lywodraeth Cynulliad Cymru – mae angen gwneud mwy na’i lansio’n unig.

“Mae’r siarter yn rhan o newid sut rydym ni’n gwneud pethau. Yn y gorffennol, rydym yn aml wedi dioddef yng Nghymru yn sgîl penderfyniadau tymor byr, sydd wedi niweidio ein hiechyd, ein lles neu’r amgylchedd. Diben datblygu cynaliadwy, ar y llaw arall, yw rhoi gwell ansawdd bywyd i bawb yng Nghymru a gwell amgylchedd i fyw ynddo yn awr ac yn y tymor hir.

“Mae hyn yn wirioneddol bwysig yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym o dan bwysau ariannol – yn gorfod ymdopi â thorri nôl ar wariant cyhoeddus wrth i ni ymadfer wedi dirwasgiad. Trwy lofnodi’r siarter hon, rydym yn ymrwymo i weithio’n gallach, a bydd hynny o fudd i bob un ohonom yn yr hinsawdd ariannol bresennol”.

Dolen allanol – Y Siarter Datblygu Cynaliadwy

< yn ôl

Join the SDC network
Bookmark and Share