Newyddion

Cyflawni Rhanbarthau Carbon Isel

15 Mehefin 2010

Gweithdy / workshopMae’r CDC wedi gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal cyfres o weithdai mewn gwahanol rannau o Gymru wrth i ni gychwyn ar ail gam y prosiect ‘Rhanbarthau Carbon Isel’, sy’n ceisio lleihau allyriadau carbon ym mhob rhanbarth yng Nghymru.

Mae’n dilyn cyhoeddi adroddiad Cymru Carbon Isel y llynedd, lle buom yn rhoi cyngor manwl ar sut gall pob rhan o’r wlad ddod yn ‘rhanbarth carbon isel’. Lluniwyd y cyngor yn bennaf ar gyfer Grwpiau Ardal Cynllun Gofodol Cymru, sy’n cyfuno cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ym mhob rhanbarth.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r Comisiwn wedi gweithio gyda’r grwpiau hyn i ddechrau gwireddu’r lleihad hwn mewn allyriadau. Rydym wedi cynnal gweithdai yn Llanelwy, Bangor, Aberystwyth a Chaerfyrddin, a bydd un arall yn cael ei gynnal yn fuan yn Ne-ddwyrain Cymru.

Cychwynnwyd y gweithdai â chyflwyniadau a thrafodaethau ynghylch llwyddiant pob rhanbarth i leihau allyriadau carbon hyd yma. Wedyn ymrannodd y cyfranogwyr yn grwpiau, ac edrych yn fwy manwl ar yr hyn y mae angen iddo ddigwydd yn y rhanbarth hwnnw mewn gwahanol feysydd, er enghraifft defnydd o dir neu drafnidiaeth. Nodwyd rhwystrau a chyfleoedd, yn ogystal â pha gamau y dylid eu cymryd nesaf a phwy ddylai weithredu.

Eglurodd Dr Gavin Bunting, Uwch Ymgynghorydd Polisi’r CDC, pam mae’r gweithdai’n bwysig:

“Lluniwyd y gweithdai i helpu Grwpiau Ardal Cynllun Gofodol Cymru i roi lleihau carbon ar waith, gan ddefnyddio arbenigedd a syniadau cyfranogwyr ochr yn ochr â’n cyngor ni i nodi’r hyn y mae angen ei wneud gyntaf, a phwy ddylai ei wneud. Wrth i bob rhanbarth sefydlu Gweithgor Carbon Isel, bydd y gweithdai’n eu helpu i ddechrau gweithredu. Rwy’n ddiolchgar am y nifer fawr o bobl a fu’n cyfrannu at y gweithdai, ac sydd mor frwd dros leihau allyriadau carbon ledled Cymru.”

Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â Dr Bunting: g.bunting@sdc.wales.ac.uk

< yn ôl

Join the SDC network
Bookmark and Share