15 Mawrth 2010
Pa lwyddiant mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei gael o ran cynaliadwyedd amgylcheddol ei weithrediadau mewnol, megis allyriadau carbon, dŵr a gwastraff? Mae ei Chynllun Datblygu Cynaliadwy ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ yn ymroddedig i feincnodi ei chynnydd yn y maes hwn, gan ddefnyddio proses adrodd ‘Datblygu Cynaliadwy yn y Llywodraeth’ y CDC.
Mae sicrhau bod Cymru’n wirioneddol gynaliadwy yn dasg i bob un ohonom – ac mae hynny’n cynnwys sut mae’r llywodraeth yn rhoi trefn ar ei materion ei hun, er enghraifft o ran gwastraff, dŵr neu allyriadau carbon. Mae’r CDC bellach yn gweithio i ddatblygu ei rôl ymhellach o ran asesu perfformiad amgylcheddol Ystâd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), er mwyn helpu’r llywodraeth yng Nghymru i arwain drwy esiampl.
Ym mis Rhagfyr fe wnaethom ni gynhyrchu ein hadroddiad ‘Datblygu Cynaliadwy yn y Llywodraeth’ (SDiG) cyntaf yng Nghymru. Datgelodd hwn gynnydd amrywiol o ran gweithrediadau mewnol LlCC. Er enghraifft, mae gwastraff wedi cael ei leihau, ac mae 85% o’r contractau trydan ar dariff gwyrdd, ond mae allyriadau cerbydau ffordd a ddefnyddir ar gyfer gwaith LlCC wedi cynyddu, ac mae’r dŵr a ddefnyddir hefyd ar gynnydd.
Y cam nesaf fydd adroddiad pellach wedi’i seilio ar y data hwn, gyda’r bwriad o helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni gwelliannau. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd gwaith yn cychwyn ar gynhyrchu ein hail adroddiad SDiG yng Nghymru, sef y cyfle cyntaf i ni brofi a yw ystâd LlCC yn dod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy wrth i ni gynnal ein hasesiadau blynyddol newydd. Bydd y CDC yn gweithio’n agos gyda swyddogion y llywodraeth ar y ddau adroddiad yn ystod y misoedd nesaf.
Mae ein gwaith yng Nghymru yn adeiladu ar ein llwyddiant mewn rhannau eraill o’r DU. Ar lefel llywodraeth y DU rydym eisoes wedi gweld gwelliannau clir ers i ni gychwyn ar y broses hon, mewn meysydd sy’n cynnwys effeithlonrwydd ynni a bioamrywiaeth. Rydym hefyd wedi cynnig dull tebyg i Lywodraeth yr Alban.
Mae’r broses hon yn gyfle i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddangos ei hymroddiad i arwain drwy esiampl, gan wneud datblygu cynaliadwy’n egwyddor drefnu ganolog, yn ogystal â sicrhau manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ymarferol.