15 Mawrth 2010
Mae Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru wedi dweud wrth ymchwiliad y Cynulliad bod rhaid gweithredu nawr i sicrhau bod Cymru’n cynyddu gwytnwch yr economi yn wyneb bygythiadau disbyddu adnoddau a newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Mae’r ffactorau hyn eisoes yn cael effaith ddifrifol ar yr economi a bywydau pobl; effaith sydd wedi’i dwysáu gan y dirwasgiad, ac sydd yn debygol o waethygu dros amser, wrth i ni wynebu diwedd cyfnod yr olew rhad.
Yn ei sylwadau i ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar ‘Creu Swyddi yn yr Economi Werdd’, pwysleisiodd y CDC yr angen am sicrhau bod yr economi mewn sefyllfa well i ymdopi â sioc amgylcheddol ac economaidd mewn modd nad yw’n ychwanegu at anghydraddoldeb nac yn mynd y tu hwnt i derfynau ecolegol.
Ymhlith y materion allweddol a amlygwyd gan y Comisiwn mae:
• Gwireddu’r weledigaeth o economi fwy cynaliadwy a gyflwynwyd yn y Strategaeth Swyddi Gwyrdd; gan weddnewid uchelgais yn ganlyniadau gwirioneddol, mesuradwy
• Datblygu diffiniad clir o union ystyr ‘swyddi gwyrdd’
• Harneisio’r cyfleoedd a gynigir gan y galw byd-eang am gynnyrch a gwasanaethau cynaliadwy
• Sicrhau bod Cymru, wrth ymdrechu i ymadfer wedi’r dirwasgiad, yn ystyried tueddiadau a risgiau hirdymor y dyfodol ac yn paratoi trwy fuddsoddi mewn meysydd megis ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaliadwy a chartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.
Mewn ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor, cyfeiriodd y CDC at y prinder sgiliau mewn meysydd megis gwyddoniaeth a pheirianneg – a allai rwystro Cymru rhag cyflawni ei tharged blynyddol o ostwng carbon gan 3%.
Tanlinellodd y Comisiwn hefyd y cyfleoedd i’r llywodraeth fanteisio ar gaffael yn y sector cyhoeddus a chysylltiadau ag addysg uwch er mwyn annog a chefnogi busnesau cynaliadwy.