We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy
Entrepreneur Amgylcheddol blaenllaw o'r Unol Daleithiau yng Nghymru
15 March 2010
Mae Paul Polizzotto yn ‘entrepreneur amgylcheddol’ amlwg yn UDA. Ym mis Chwefror trefnodd y CDC, ynghyd â Llysgenhadaeth America yn Llundain a Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyflwyniad ar ei waith gan Paul yng Nghaerdydd.
Dechreuodd Paul trwy egluro sut roedd wedi datblygu diddordeb mewn materion amgylcheddol yn ifanc iawn fel syrffwr ifanc yng Nghaliffornia. Aeth ymlaen i sefydlu cwmni glanhau amgylcheddol diwydiannol, gan arloesi proses o’r enw dim arllwysiadau (‘zero discharge’) – dull o lanhau dŵr ffo cyn iddo lifo i’r draeniau llifogydd, a thrwy hynny ddiogelu dŵr afonydd a’r môr. Arweiniodd hyn at ei alw’n ‘arwr amgylcheddol’ gan Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yn UDA.
Heddiw ef yw Prif Swyddog Gweithredol EcoMedia, cwmni a sefydlwyd ganddo yn 2002, sy’n defnyddio arian mae cwmnïau’n ei wario ar hysbysebu i gynhyrchu cyfryngau sy’n cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion amgylcheddol ac yn rhoi’r arian hwnnw ar waith er mwyn cael hyd i atebion i’r newid yn yr hinsawdd.
Eleni bydd EcoMedia, mewn partneriaeth â Chorfforaeth y CBS, yn cwblhau gwaith i weddnewid ysgolion yn amgylcheddol ar draws UDA. Bydd y cwmni hefyd yn lansio Cyfryngau Gweithredu ar yr Hinsawdd (‘Climate Action Media’), ei gynnyrch “hysbysebu wedi’i osod yn erbyn carbon” lle mae cyfran o’r gwariant ar hysbysebu corfforaethol yn talu am ôl-addasu effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy ar y safle mewn adeiladau trefol ledled America.
Mae gwaith Paul wedi cael ei ganmol yn helaeth, ac yn 2009, derbyniodd Paul ac EcoMedia Wobr ‘Rhagoriaeth mewn Partneriaethau Cyhoeddus/Preifat’ Cynhadledd Meiri’r Unol Daleithiau.
Atebodd Paul nifer o gwestiynau o’r gynulleidfa, a oedd yn awyddus i holi am ddefnyddio modelau arloesol tebyg i hwn ar gyfer partneriaethau preifat a chyhoeddus, i helpu Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Darllenwch fwy am waith Paul gydag EcoMedia (dolen allanol, Saesneg yn unig)
