We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy

'Gosod y Bwrdd’ yn codi cwestiynau pwysig i Gymru

11 December 2009

Mae adroddiad newydd gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (CDC) yn dod i’r casgliad y byddai dileu gwastraff, torri i lawr ar fwydydd brasterog, a llawn siwgr a lleihau faint o gig a chynnyrch sy’n cynnwys llaeth a fwyteir yn cyfrannu’n sylweddol at wella iechyd ac yn lleihau effaith y system fwyd ar yr amgylchedd.

PupurauYn Gosod y Bwrdd - Cyngor i’r Llywodraeth ar flaenoriaethau deiet cynaliadwy, a gomisiynwyd gan Defra, aseswyd yr effaith a gaiff y newid mewn patrymau bwyta ar yr amgylchedd ac ar iechyd. Mae’n dod i’r casgliad bod tystiolaeth gref bod nifer o newidiadau i’r hyn yr ydym yn ei fwyta sydd o les i’r amgylchedd hefyd yn sicrhau mantais ychwanegol o ran gwella iechyd maethol yn y DU.

Mae ein cadwyn fwyd a’n dewisiadau dietegol yn cael effaith enfawr. Mae mwy na hanner yr oedolion yng Nghymru a thraean o blant Cymru dros eu pwysau neu’n ordew. Mae amaethyddiaeth yn gyfrifol am 11% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru.

Canfu ymchwil y CDC dystiolaeth y byddai bwyta pysgod o ffynonellau cynaliadwy’n unig; bwyta mwy o fwydydd sydd yn eu tymor; peidio ag yfed dŵr potel; siopa ar droed neu dros y rhyngrwyd a bwyta bwydydd organig, sy’n fwy ystyriol o fywyd gwyllt, hefyd yn cyfrannu at ddeietau mwy cynaliadwy. Fodd bynnag, roedd y manteision pwysicaf i iechyd a’r amgylchedd drwy leihau cig a bwyd sy’n cynnwys cynnyrch llaeth; torri i lawr ar fwyd a diod sydd â gwerth maethol isel - gan gynnwys bwydydd brasterog, a llawn siwgr; a lleihau gwastraff bwyd.

Meddai Peter Davies, Comisiynydd Cymru ar gyfer y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy: “Yng Nghymru mae angen i ni fwyta mewn ffyrdd sy’n llesol i’n hiechyd a’r amgylchedd. Mae ffermio’n chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae ganddo rôl allweddol i’w chwarae mewn darparu deiet cynaliadwy. Rydym yn gwybod bod cynhyrchu da byw weithiau’n gallu bod yn dda i’r amgylchedd: er enghraifft, mae anifeiliaid sy’n pori ar ffermydd mynydd yn gallu arwain at ddal carbon. Rydym yn ffodus yng Nghymru fod gennym sector bwyd sy’n datblygu brand rhyngwladol cryf ac mae cyfle unigryw i fodloni’r galw yn y dyfodol am gynhyrchion mwy cynaliadwy, o ansawdd uchel yn y wlad hon a thramor. Gall ffermwyr Cymru elwa o gyflenwi bwyd diogel, iach ac isel mewn carbon sy’n gwneud y defnydd gorau o natur yr hinsawdd, diwylliant a daearyddiaeth Cymru.”

“Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd yn yr adroddiad hwn, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n edrych sut y gall weithio gyda ffermwyr fel y bydd ein heconomi, cymdeithas, iechyd a’r amgylchedd yn elwa. Mae’r adroddiad hwn yn codi materion cymhleth ynglŷn â chig a chynhyrchion sy’n cynnwys llaeth ac mae angen gwneud mwy o waith i roi sylw iddynt. Fodd bynnag, lle mae problemau, gadewch i ni ddelio â nhw ac adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud mewn amaethyddiaeth yng Nghymru.”

Comisiynwyd Gosod y Bwrdd - Cyngor i’r Llywodraeth ar flaenoriaethau deiet cynaliadwy, gan Defra fel rhan o’i brosiect Bwyd 2030.

» Islwythwch Gosod Y Bwrdd

< Back