We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy
Gosod y Sylfeini ar gyfer Adeiladau Carbon Isel
14 December 2009
Os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn cyflawni ei gweledigaeth, bydd newid sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf yn y math o adeiladau a godir yng Nghymru, gan y bydd y wlad yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd mewn ffordd unigryw.
Yn ganolog i’r ymdrechion i gyflawni’r agenda hon yng Nghymru mae ‘Grŵp Carbon Isel/Digarbon Cymru’. Yn gyrru’r agenda yng Nghymru mae dau bolisi allweddol, sydd fel ei gilydd yn cychwyn yn 2011. O’r flwyddyn honno ymlaen mae gan LlCC darged o ostwng yr allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn mewn meysydd polisi sydd wedi’u datganoli, yn ogystal â dyhead i sicrhau bod pob adeilad newydd yn ddigarbon.
Mae’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (CDC) wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o helpu i gyflawni amgylchedd adeiledig carbon isel yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ym mis Tachwedd 2008 lansiodd y CDC Siarter Adeiladau Gwyrdd arloesol, ar y cyd â LlCC a Chomisiwn Dylunio Cymru. Mae dros 50 o sefydliadau wedi ymrwymo i gefnogi’r cynnydd tuag at adeiladau carbon isel neu ddigarbon. Er mwyn cydlynu gwaith y rhai a ymunodd â’r cynllun, cefnogodd y CDC y broses o ffurfio Grŵp Carbon Isel/Digarbon Cymru – partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, dan gadeiryddiaeth Chris Jofeh o Arup, gyda Jeff Perren OBE yn gyfarwyddwr.
Lansiwyd y Grŵp ym mis Mawrth 2009, gyda nifer o nodau oedd yn gysylltiedig ag adeiladau hen a newydd, ac ymrwymiad i weithio’n agos gyda Grŵp Digarbon y Deyrnas Unedig. Mae cynlluniau’r Ganolfan yn cynnwys:
• Darparu map clir o ddyhead Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod adeiladau newydd yn ddigarbon erbyn 2011
• Hyrwyddo’r cyfleoedd masnachol a ddaw yn sgîl symud i amgylchedd adeiledig carbon isel/digarbon
• Ymchwilio i’r sgiliau a’r hyfforddiant y mae eu hangen yn y diwydiant adeiladu
• Cefnogi’r llifoedd gwaith a arweinir gan yr Existing Homes Alliance i wella’r tai sydd eisoes ar gael
“Ein nod cyntaf fu gwrando” meddai Chris Jofeh. “Mae cefnogaeth gyffredinol yn y sector i newid i ddyfodol carbon isel, ond mae hefyd lawer o gwestiynau ynghylch sut mae gwneud hynny. Ein rôl yn y grŵp yw nodi’r rhwystrau a gweithio i’w goresgyn.”
Mae’r Grŵp wedi cynnal gweithdai i ganfod beth sy’n gorfod digwydd i wireddu gweledigaeth LlCC. Mae hyn yn cynnwys ymateb i gwestiynau ynghylch caffael, costau, sgiliau a hyfforddiant. Mae’r Grŵp yn datblygu porthol i rannu gwybodaeth gyda’r sefydliadau perthnasol. Bydd hefyd yn cydlynu’r amrywiol lifoedd gwaith, gan gynnwys yr Existing Homes Alliance yng Nghymru, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Mae Mike Williams o’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu yng Nghymru bellach wedi cael ei secondio’n rhan amser i’r CDC i weithio i’r Grŵp.
“Mae’n dda bod yn rhan o brosiect mor arloesol, yn enwedig o gofio mai’r amgylchedd adeiledig sy’n cyfrannu fwyaf at allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru,” ychwanegodd Chris. “Mae gennym gyfle yng Nghymru i arwain ar adeiladau carbon isel yn y Deyrnas Unedig, ond i wneud hynny mae angen atebion ymarferol arnom, a dyna rôl y Grŵp.”
