We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy
Dymchwel Rhwystrau Ar Gyfer Cymru Carbon Isel
12 November 2009
- Un o gynghorwyr y Llywodraeth yn dweud y dylid gwneud byw bywyd carbon isel yn 'hwylus i bawb'
- Teithio i'r gwaith, gwresogi tai a chynhyrchu ynni glân ymhlith y blaenoriaethau
- Modd cyflawni'r weledigaeth ond rhaid i fusnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gydweithio ar lefel ranbarthol
- Adroddiad y Comisiwn yn cael ei groesawu gan weinidogion
Mae ceir trydan, bwyd lleol a chartrefi wedi'u tra-inswleiddio i gyd yn rhan o weledigaeth Cymru carbon isel y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, a gaiff ei lansio yn Nhredegar heddiw. Mae adroddiad y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy 'Cymru Carbon Isel: Blaenoriaethau Rhanbarthol i'w Gweithredu', a gynhyrchwyd ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn rhoi cyngor ar sut y gall pob rhanbarth yng Nghymru leihau allyriadau carbon yn sylweddol, mewn ffordd sydd wedi'i theilwra i natur unigryw yr ardal honno.
Ymhlith yr enghreifftiau o flaenoriaethau lleihau carbon pob rhanbarth mae:
- Canolbarth Cymru – Diogelu carbon a gaiff ei storio yn y pridd, gweithio gyda chymunedau i wneud y gorau o fuddiannau ynni adnewyddadwy.
- Gogledd-ddwyrain Cymru - Gweithio gyda'r sail ddiwydiannol yn y rhanbarth i gynyddu effeithlonrwydd adnoddau
- Gogledd-orllewin Cymru - Hyrwyddo bwyd lleol, cynhyrchu trydan carbon isel, diogelu carbon y pridd.
- Sir Benfro - Adeiladu ar statws yr ardal fel canolfan ynni, gweithio gyda diwydiant i ddatblygu atebion carbon isel. O ran trafnidiaeth - fideo-gynadledda a mannau ailwefru cerbydau trydan.
- De-ddwyrain Cymru - Canolbwyntio ar deithio - lleihau'r angen e.e. drwy deleweithio a hyrwyddo newid tuag at ddewisiadau carbon is e.e. rhannu ceir, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
- Bae Abertawe a'r Cymoedd Gorllewinol - Gweithio tuag at economi carbon isel: cefnogi ymchwil a datblygu technolegau carbon isel ac ystyried cyfleoedd ar gyfer yr economi wybodaeth mewn dyfodol carbon isel.
Yn lansiad Cymru Carbon Isel bydd Peter Davies, Comisiynydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru, yn dweud:
"Mae hwn yn adroddiad gwirioneddol unigryw. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw un weithio allan sut y gall pob rhanbarth yng Nghymru leihau allyriadau carbon i'r graddau sydd eu hangen, yn y ffyrdd sy'n gweddu orau i'r ardal honno. Mae pob rhan o Gymru'n unigryw - nid yw'n ddigon rhoi'r un cyngor i rywun yn Sir Benfro â rhywun yng Nghaerdydd neu Ddolgellau. Mae'n dangos bod Cymru carbon isel nid yn unig yn angenrheidiol, mae hefyd yn ddymunol ac o fewn cyrraedd os gweithiwn gyda'n gilydd."
Bydd y Comisiynydd hefyd yn rhybuddio, er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd mewn ffordd effeithiol, y bydd angen gwneud ffyrdd o fyw carbon isel yn llawer haws i'r cyhoedd:
"Mae'r rhan fwyaf ohonom bellach yn cydnabod bygythiad newid yn yr hinsawdd ond er mwyn creu Cymru carbon isel rydym yn wynebu dwy brif her. Yn gyntaf, mae angen i ni wneud y dewisiadau cywir yn 'hwylus i bawb'. Dylai fod yn haws i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, bwyta cynnyrch lleol a gwresogi ein tai yn rhad â llai o danwydd ffosil. Dylai byw bywyd carbon isel fod yn bleser, nid yn frwydr. Yn ail, mae angen i ni gydweithio ar lefel ranbarthol. Mae rhanbarthau Cymru'n adlewyrchu ein bywydau bob dydd - mae ein taith i'r siopau, i'r rygbi neu i'r gwaith yn aml yn croesi ffiniau lleol. Er mwyn mynd i'r afael ag allyriadau carbon mewn ffordd effeithiol, mae angen i ni ddymchwel rhwystrau - drwy weithio ar draws sectorau ac ar draws ffiniau lleol ym mhob rhanbarth yng Nghymru."
Mae'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy hefyd yn argymell gweithredu ledled Cymru gyfan:
- Rhaglen weithredu ar gyfer adnewyddu pob cartref sy'n bodoli eisoes
- Cynyddu capasiti creu ynni'n sylweddol o ynni adnewyddadwy yn y gymuned ac ar raddfa fawr
- Darparu'r seilwaith a'r wybodaeth sydd eu hangen i wneud dewisiadau trafnidiaeth doethach - galluogi pobl i newid i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus
- Cynyddu'n sylweddol y defnydd o danwydd trafnidiaeth carbon isel a cherbydau trydanol
- Diogelu'r storfeydd carbon pridd sylweddol
- Cynyddu cyfanswm y bwyd a dyfir gan y gymuned ac unigolion yn sylweddol.
Cynlluniwyd y cyngor i helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni ei gwaith presennol o leihau allyriadau a gwneud Cymru'n wlad gynaliadwy.
Croesawodd y Gweinidog dros Gyllid a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, Andrew Davies, yr adroddiad:
"Mae'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy wedi nodi bod llawer o fentrau da ar gyfer lleihau allyriadau carbon yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r rhain yn aml mewn clytiau ynysig. Nawr mae angen i ni wella'r arfer da er mwyn cael effaith ystyrlon ar leihau allyriadau carbon. Mae proses Cynllun Gofodol Cymru yn darparu'r dull perffaith i wneud hyn, drwy ymagwedd gydweithredol gallwn nodi'r seilwaith a'r gwasanaethau sydd eu hangen i alluogi dinasyddion Cymru i wneud dewisiadau carbon isel."
Dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai:
"Bydd ein Strategaeth derfynol ar Newid yn yr Hinsawdd i Gymru, y bwriedir ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf, yn nodi'r mesurau sydd eu hangen i gyflawni ein targed o leihau allyriadau carbon 3% yn flynyddol o 2011 ymlaen, gan ei gwneud yn bosibl eu lleihau 80% cyn 2050. Bydd angen cyflawni llawer o'r mesurau hyn ar lefel ranbarthol ac mae'r adroddiad hwn yn dangos sut y gellid defnyddio proses Cynllun Gofodol Cymru i helpu i gyflawni hyn."
Mae 'Cymru Carbon Isel' yn targedu'r cyhoedd, y sector preifat a'r trydydd sector. Bydd sefydliadau megis busnesau, elusennau, cynghorau lleol a'r GIG yn defnyddio'r cynlluniau wrth iddynt gydweithio o fewn 'grwpiau ardal Cynllun Gofodol Cymru' ym mhob rhan o Gymru. Mae'r grwpiau hyn yn bodoli i sicrhau meddylfryd a chydweithio cydgysylltiedig mewn rhanbarthau yn seiliedig ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau.
» Islwythwch Cymru Carbon Isel: Blaenoriaethau Rhanbarthol i'w Gweithredu
