1 Gorffennaf 2009
Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’n datgelu ei Gamau Breision ar gyfer yr 21ain Ganrif mewn digwyddiad yn Llundain gydag Anna Ford, Jonathan Dimbleby a Rosie Boycott.
Cyfyngu a Rhannu, Algae, Cymunedau Tyfu Bwyd Lleol, a Banc Brenhinol Cynaliadwyedd yn derbyn clod fel Camau Breision posibl
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru’n gwneud ymweliad arbennig i gyfarfod y timau y tu ôl i’r syniadau
Heddiw (1 Gorffennaf 2009) bydd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’n datgelu 19 o syniadau Camau Breision a allai drawsnewid y DU yn gymdeithas gynaliadwy, mewn digwyddiad a fynychir gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.
Mae prosiect Camau Breision ar gyfer yr 21ain Ganrif CDC yn ceisio canfod y syniadau a allai gael yr effaith fwyaf ar ymdrechion Prydain i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, colli adnoddau ac anghydraddoldeb. Cyflwynwyd bron i 300 o syniadau gan y cyhoedd, busnesau, academyddion, a gweithwyr proffesiynol ym maes cynaliadwyedd, ac o blith y rheini, dewisodd Gomisiynwyr y Comisiwn 19 fel Camau Breision posibl.
Bydd yr 19 o unigolion a grwpiau y tu ôl i’r detholiad terfynol yn dangos eu syniadau yng nghynhadledd heddiw, a lywyddir gan Anna Ford, Jonathan Dimbleby a Rosie Boycott, a bydd ymweliad arbennig gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Bydd 400 o gynrychiolwyr lefel-uchel o blith cymunedau, busnesau, y gwasanaeth cyhoeddus a’r Llywodraeth yn bresennol i drafod sut i droi’r syniadau’n realiti cenedlaethol.
O blith yr 19 o syniadau terfynol sy’n Gamau Breision posibl mae:
Meddai Cadeirydd y Comisiwn Jonathon Porritt:
“Mae cynnydd o ran datblygu cynaliadwy, ar lefel genedlaethol, wedi bod yn araf. Eto i gyd, mae pobl ym mhob rhan o’r wlad yn gweithredu i wneud eu cymunedau eu hunain yn fwy cynaliadwy, gan ddatblygu syniadau technolegol, arloesol a symud y rhaglen bolisi yn ei blaen gyda syniadau o wir bwys.
“Mae rhai o’r syniadau Camau Breision yr ydym wedi eu dewis yn cynrychioli arloesedd a dychymyg blaengar; mae eraill yn syniadau cyfarwydd ond pwerus y mae’n bryd gwneud iddynt ddigwydd. Roeddem eisiau dathlu’r gwaith caled y tu ôl i’r syniadau hyn, a dechrau sgwrs ehangach ynglŷn â sut y gall y DU fwrw ymlaen â’r rhain - a llu o syniadau gwych eraill. Rydym wedi bod yn siarad am hyn yn ddigon hir. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw gweithredu”.
Mae crynodeb o’r adroddiad Camau Breision ar gyfer yr 21ain Ganrif ar gael i’w lwytho i lawr o wefan y Comisiwn ar www.sd-commission.org.uk. - DIWEDD
i. Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yw corff cynghori annibynnol y Llywodraeth ar faterion cynaliadwyedd, mae’n cynnwys 17 o Gomisiynwyr ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weinidog, Prif Weinidog Cymru a’r Alban, a Phrif Weinidog a Dirprwy Weinidog Gogledd Iwerddon.
ii. Cafodd yr 19 syniad Camau Breision eu dewis gan Gomisiynwyr o blith bron i 300 o syniadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd, busnesau, academyddion, cymunedau, cyrff anllywodraethol a gweithwyr proffesiynol ym maes cynaliadwyedd. Dyma’r rhestr derfynol lawn:
1. Cymunedau Tyfu Bwyd Lleol - prosiect wedi’i arloesi yn Todmorden, Gorllewin Swydd Efrog, i gynyddu faint o fwyd lleol a dyfir ac a fwyteir o fewn y gymuned
2. Ailfeddwl am Arddio Cymunedol – y gymuned yn elwa o dyfu bwyd ar dir cyhoeddus a phreifat
3. Gwerthoedd Naturiol: profiadau yn yr awyr agored i’r holl blant yn y DU– gwrthwneud y duedd o blant yn tyfu i fyny heb fynediad i’r amgylchedd naturiol, i gynyddu eu hiechyd, hyder a’u lles, a’u dealltwriaeth o’r berthynas rhwng eu dewisiadau a’r byd o’u cwmpas
4. Cymryd Hapusrwydd o Ddifrif – Athrawon ac ysgolion yn gweithio gyda phobl ifanc i hybu hunan barch a chydlyniant cymdeithasol, a’u helpu i ddeall beth sy’n gwneud pobl yn hapus mewn bywyd
5. Datblygu gweithredu ar y cyd – twf sefydliadau a rhwydweithiau cymdeithasol gweithgar ar gyfer sicrhau newid, megis y rhwydwaith Trefi Trawsnewid, ‘Green Voice’, neu Brosiect ‘Dirt’ yn Ne Llundain
6. Cyngres ar gyfer y Dyfodol - Dod â dinasyddion a rhanddeiliaid at ei gilydd mewn Cyngres arbennig a gynullir gan y Senedd bob blwyddyn i helpu i sicrhau cytundeb cyffredinol a darparu cyfeiriad ar faterion hirdymor
7. Parthau Carbon Isel – Parthau gweithredu ynni i godi pob cartref i’r safonau gorau o ran effeithlonrwydd ynni mewn parthau wedi eu dynodi’n benodol o fewn pob awdurdod lleol
8. Ôl-ffitio yn ardal Manceinion - Trawsnewid holl gartrefi a busnesau ardal Manceinion i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni
9. O ‘Dalu Ymlaen Llaw’ i ‘Dalu Wrth Gynilo’ – Ariannu mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref drwy system arloesol lle mae deiliaid aelwyd yn talu am welliannau drwy gynilion ynni
10. Bio-olosg a phriddoedd - Newid gwastraff i ffurf o garbon y gellir ei roi’n ôl yn y pridd, gan wella ansawdd y pridd er mwyn cael gwell cnydau gyda llai o wrtaith
11. Mae Llai o Gleifion yn Fanteisiol - Cynyddu’r ganran y mae’r GIG yn ei gwario ar atal salwch, yn hytrach na rhoi triniaeth ar ôl iddo ddigwydd
12. Prif ffrydio beicio – Gwneud y beic yn ddewis arferol ar gyfer siwrneiau hyd at bum milltir
13. Cyfyngu a Rhannu - Gorfodi cyflenwyr tanwydd ffosil i brynu trwyddedau ar gyfer eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr, cyn cael yr hawl i werthu’r tanwydd - a rhannu’r elw gyda’r holl ddinasyddion, sydd â dewis p’un ai i werthu eu trwyddedau ai peidio i gyflenwyr ynni
14. Kyoto 2 – Dull newydd o ran Protocol Kyoto, sy’n diffinio terfyn byd-eang ar allyriadau a rheoli allyriadau ‘oddi wrth y cwsmer’ – yn neu’n agos at y fan ble cynhyrchir y tanwyddau ffosil
15. Cyllidebau Carbon Personol – Gwneud gostyngiadau mewn allyriadau’n berthnasol i ddinasyddion unigol drwy eu gwneud yn atebol am ddefnyddio ynni yn yr aelwyd ac ar gyfer cludiant
16. Bondiau Gwyrdd - Codi cyfalaf ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni carbon isel neu sero drwy fondiau Llywodraeth
17. Banc Brenhinol Cynaliadwyedd – Trawsnewid y banc sydd â’r cysylltiad agosaf â’r diwydiant olew a nwy – sydd bellach yn eiddo cyhoeddus – yn un sy’n buddsoddi mewn prosiectau i atal effeithiau newid hinsawdd
18. ‘Green Inc.’ – marchnad lafur gwir gynaliadwy – Defnyddio arian cyhoeddus mewn ardaloedd difreintiedig, gwella sgiliau, a chreu cyflogaeth ddefnyddiol a chadarnhaol, gan ganolbwyntio ar y math o swyddogaethau sydd eu hangen mewn cymuned gynaliadwy, carbon isel – megis effeithlonrwydd ynni a chyflenwadau bwyd carbon isel
19. Algae a dal carbon - defnyddio algae sy’n tyfu’n gyflym i amsugno’r CO2 sy’n cael ei allyrru gan danwydd ffosil yn llosgi mewn diwydiant
iv. Mae Camau Breision yn nodi diwedd tymor naw mlynedd Jonathon Porritt fel Cadeirydd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy. Bydd yn cael ei olynu ar 27 Gorffennaf gan Will Day, cyn Brif Weithredwr CARE International ac ymgynghorydd ar gynaliadwyedd i Pricewaterhouse Coopers v. Mae digwyddiad Camau Breision CDC ar 1 Gorffennaf 2009 wedi ei gefnogi gan yr Ymddiriedolaeth Garbon; Wessex Water, The Co-operative, NESTA, WRAP, The Ashden Awards for Sustainable Energy, Ecotricity, Wilmott Dixon, Marks and Spencer a Natural England.