Newyddion

Dylai Cymru fachu ar y cyfle i 'Adfer yn Wyrdd'

8 Ebrill 2009

  • Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn annog Llywodraeth y Cynulliad i ystyried buddsoddiad wedi’i dargedu mewn swyddi a sgiliau gwyrdd 
  • Mynd i’r afael â’r dirwasgiad yn rhoi cyfle unigryw i adeiladu Cymru gadarnach wrth i’r hinsawdd newid

Mae cynghorydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gynaliadwyaeth yn galw am fuddsoddi pellach mewn sgiliau a swyddi gwyrdd i ailgodi’r economi wrth i’r hinsawdd newid ac i brisiau nwyddau godi. Ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaliadwy a gwneud cartrefi yn fwy effeithiol eu hynni yw rhai o’r prif feysydd i fuddsoddi ynddynt, yn ôl y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy.

Adeiladwyr wrth eu gwaithHeddiw mae’r Comisiwn yn cyhoeddi ei gyngor i Weinidogion cyn y Gyllideb ar Ebrill 22ain. Mae “Bargen Newydd Gynaliadwy” yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi £30biliwn y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf ar becyn adfer gwyrdd. Mae’r cyfrifiadau ar hyn o bryd yn awgrymu y gallai hyn greu 800,000 o swyddi. Ac yntau’n lansio’r adroddiad yn Stadiwm Liberty, Abertawe heddiw, dywedodd Comisiynydd Economeg y Comisiwn, yr Athro Tim Jackson:

“Mae gan yr argyfwng economaidd presennol y potensial i hau cyfleoedd economaidd yfory. Ond mae gofyn am ddewrder a gweledigaeth heddiw. Dyma gyfle i Lywodraeth Cynulliad Cymru fuddsoddi yn y sgiliau a’r swyddi sydd eu hangen i greu economi cadarnach, isel ei garbon.”

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i doriad blynyddol o 3% mewn allyriadau carbon mewn meysydd lle mae’r pwerau wedi’u datganoli o 2011. Y gobaith hefyd yw cael adeiladau newydd ddi-garbon o 2011. Dywedodd Comisiynydd Cymru, Peter Davies:

“Rydym yn croesawu cynnig Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud datblygu cynaliadwy yn ‘egwyddor trefnu ganolog i’r llywodraeth’. Bydd ei gwaith i gefnogi swyddi drwy’r dirwasgiad, datblygu strategaeth swyddi gwyrdd a chreu rhanbarth isel ei charbon ym Mlaenau’r Cymoedd yn ddechreubwynt da ar gyfer newid i economi carbon-isel a mynd i’r afael â bygythiad newid yn yr hinsawdd.”

» Islwythwch 'A Sustainable New Deal' (Saesneg)

 

< yn ôl

Join the SDC network
Bookmark and Share