30 March 2009
- Anelu at dwf yn ‘bygwth yr economi, cymdeithas a’r amgylchedd’
- Adroddiad pwysig cyn yr Uwchgynhadledd G20 yn nodi 12 cam ar gyfer trawsnewid i economi gynaliadwy
Mae adroddiad pwysig a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 30 Mawrth) gan ymgynghorydd datblygu cynaliadwy y llywodraeth yn dadlau mai anelu at dwf economaidd yw un o brif achosion yr argyfwng ariannol presennol, yn ogystal â chyfrannu at argyfwng amgylcheddol cynyddol a thanseilio lles mewn gwledydd datblygedig.
Mae adroddiad y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Ffyniant Heb Dwf? yn dweud mai’r dirwasgiad byd-eang presennol yw’r adeg i greu system economaidd newydd â’r gallu i osgoi’r ysgytiadau a’r effeithiau negyddol a gysylltir â’n dibyniaeth ar dwf. Cyn yr Uwchgynhadledd G20 yn Llundain yr wythnos hon, mae’r adroddiad yn galw ar arweinwyr i fabwysiadu cynllun 12 cam i gyflwyno’r trawsnewid i economi deg, gynaliadwy a charbon isel.
Dywedodd awdur yr adroddiad, yr Athro Tim Jackson, Comisiynydd Economaidd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy:
“Yn wyneb y dirwasgiad presennol, mae’n ddealladwy y bydd llawer o’r arweinwyr yn yr Uwchgynhadledd G20 yn awyddus i ddychwelyd i’r sefyllfa flaenorol. Ond mae angen i lywodraethau edrych yn ofalus dros ben ar effeithiau ein hymroddiad unigryw i dwf – effeithiau sy’n cynnwys y dirwasgiad ei hun.
“I filiynau mewn gwledydd sy’n datblygu, mae twf yn amlwg yn parhau’n hanfodol er mwyn cyflawni safonau byw a lles sylfaenol. Ond, yn y gwledydd datblygedig, yn cynnwys y DU, yn hytrach na chynyddu ffyniant, mae ein treuliant a yrrir gan ddyled wedi creu system ansefydlog sydd wedi peryglu swyddi a bywoliaethau, yn ogystal â’n niweidio ni yn seicolegol ac yn gymdeithasol.”
Mae Ffyniant Heb Dwf? yn nodi bod ein hargyfwng ariannol presennol yn uniongyrchol gysylltiedig â’n dymuniad i anelu at dwf. Mae ein dibyniaeth ar ddyled i ariannu’r cylch twf wedi creu system ansefydlog iawn sydd wedi gwneud unigolion, teuluoedd a chymunedau yn fregus iawn i gylchoedd o dyfu a chwalu, tra nad yw cynyddu treuliant yn ein gwneud yn hapusach.
Mae’r adroddiad yn dangos bod twf economaidd wedi cyflawni ei fanteision yn anghyfartal ar y gorau, gyda phumed ran o boblogaeth y byd yn ennill 2% yn unig o’r incwm byd-eang. Hyd yn oed mewn gwledydd datblygedig, mae bylchau anferth yn parhau mewn cyfoeth a lles rhwng y cyfoethog a’r tlawd.
Mae anelu at dwf wedi esgor ar ganlyniadau amgylcheddol trychinebus hefyd. Yn ystod y chwarter canrif diwethaf, er bod yr economi fyd-eang wedi dyblu, mae’r cynnydd mewn treuliant adnoddau wedi diraddio amcangyfrif o 60% o ecosystemau’r byd ac arwain at fygythiad o newid catastroffig yn yr hinsawdd.
Mae’r economi fyd-eang eisoes bron i 5 gwaith yn fwy nag yr oedd 50 mlynedd yn ôl. Pe byddai’n parhau i dyfu yr un mor gyflym, byddai’n 80 gwaith yn fwy erbyn diwedd y ganrif hon.
Er bod moderneiddio cynhyrchu ac ail-ddylunio nwyddau a gwasanaethau wedi arwain at well effeithlonrwydd o ran adnoddau ac ynni yn ystod y degawdau diwethaf, canfyddiad yr adroddiad yw bod dyheadau i ‘ddadgylpu’ effeithiau amgylcheddol rhag twf economaidd yn afrealistig. Hyd yn oed yn seiliedig ar lefel gymedrol o dwf o 2% y flwyddyn, byddai cwrdd â thargedau lleihau carbon 2050 yn golygu cyflawni cynnwys carbon heb fod yn fwy na 6gCO2 ar gyfer pob doler sy’n cael ei wario - 130 gwaith yn is na’r dwysedd carbon cyfartalog heddiw, sy’n ffigur enfawr.
Dywedodd Tim Jackson:
“Gallai ymddangos yn amhriodol i gwestiynu twf pan rydym yn wynebu newyddion yn ddyddiol am effeithiau’r dirwasgiad, ond teyrngarwch at dwf yw nodwedd amlycaf system economaidd a gwleidyddol sydd wedi ein harwain at ymyl trychineb. Byddai peidio â chamu yn ôl nawr a chwestiynu’r hyn sydd wedi digwydd yn ychwanegu mwy o fethiant at fethiant: methiant o ran gweledigaeth gyda methiant o ran cyfrifoldeb. Mae gweithio allan sut i gyflawni ffyniant heb dwf yn fwy hanfodol nawr nac erioed.”
Mae’r adroddiad yn cynnig cynllun i’r llywodraeth ddatblygu macro-economeg newydd ar gyfer cynaladwyedd, nad yw’n dibynnu ar dwf ac ehangu trwybwn materol ar gyfer ei sefydlogrwydd.
Mae’r argymhellion yn cynnwys:
Dywedodd Jonathon Porritt, Cadeirydd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy:
“Ail-weirio’r economi yw’r cyfraniad mwyaf y gallwn ei wneud tuag at adeiladu dyfodol cynaliadwy. Efallai bod yr argyfwng economaidd presennol yn boenus, ond mi fydd yn ddibwys o’i gymharu â’r argyfyngau y byddwn yn eu hwynebu os byddwn yn caniatáu i’r adnoddau sylfaenol yr ydym yn dibynnu arnynt ddymchwel.”
Ffyniant Heb Dwf? yw penllanw rhaglen waith dwy flynedd yn edrych ar yr hyn y gallai ffyniant ei olygu mewn cyd-destun cynaliadwy. Mae cyfranwyr at y prosiect yn cynnwys economegwyr ac academyddion amlwg yn cynnwys Herman Daly, Paul Ekins, Kate Soper, Ziauddin Sardar a Tim Kasser.
» Islwythwch grynodeb Ffyniant Heb Dwf? (Cymraeg)
» Islwythwch Ffyniant Heb Dwf? (Fersiwn llawn yn Saesneg)