We are the UK Government’s independent adviser on sustainable development. Through advocacy, advice and
appraisal, we help put sustainable development at the heart of Government policy

Busnesau Yn Llofnodi Siarter Adeiladu Gwyrdd

26 March 2009

Mae'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru wedi bod yn datblygu siarter adeiladu amgylcheddol cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, yn cydlynu mwy na 50 o lofnodwyr ar draws busnes a'r gymuned.

Jane Davidson AM and Jonathon Porritt with signatories to the Green Building CharterMae'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (y Comisiwn) yng Nghymru wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r siarter gyntaf o'i fath yn y DU ynglŷn ag adeiladau amgylcheddol, gan gydgysylltu mwy na 50 o lofnodwyr o'r sector busnes a'r gymuned.

 

 

Fel rhan o'r Siarter Adeiladau Gwyrdd, a ddatblygwyd ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru (DCfW), mae dros 50 o sefydliadau wedi llofnodi datganiad i gefnogi cynnydd tuag at amgylchedd adeiledig sy’n creu allyriadau carbon isel neu ddi-garbon.

Yr amgylchedd adeiledig yw'r prif beth sy'n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Mae gwaith adeiladu tai a'r ffordd rydym yn rhedeg ein cartrefi yn cyfrif am oddeutu 45% o'n holl allyriadau carbon.

Roedd y fenter yn rhan o Uwchgynhadledd yr Amgylchedd Adeiledig a Newid Hinsawdd a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm ar 12fed Tachwedd 2008. Lansiwyd y prosiect gan Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai a Jonathon Porritt, Cadeirydd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy.

Ymhlith y rhai hynny sydd wedi ymrwymo i'r Siarter mae partneriaid allweddol megis Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, CBI Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Choleg Glannau Dyfrdwy. Gallwch weld rhestr lawn o bawb sydd wedi llofnodi'r Siarter yma.

Bydd y Siarter newydd hon yn allweddol i gyflawni dyhead uchelgeisiol Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod pob adeilad newydd yn ddi-garbon erbyn 2011, bum mlynedd cyn targed Llywodraeth y DU, sef 2016. Mae'r mesur hefyd yn ceisio cyfrannu'n sylweddol at darged Cymru o leihau allyriadau 3% bob blwyddyn o 2011 ymlaen. Byddai lleihau allyriadau 3% bob blwyddyn yn galluogi Cymru i'w lleihau 80% erbyn 2050.

Un o nodau eraill y Siarter Adeiladau Gwyrdd yw cynyddu'n sylweddol effeithiolrwydd ynni stoc dai bresennol Cymru er mwyn lleihau ôl-troed carbon y wlad ymhellach. Mae'r defnydd uniongyrchol ac uniongyrchol o ynni gan adeiladau yn creu tua 40% o'r holl allyriadau carbon yn y DU.

Sut y gwnaethom gyrraedd y sefyllfa hon?

Nododd adroddiad y Comisiwn ‘I Will If You Will’, a gyhoeddwyd yn 2006, fod angen cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys y llywodraeth, busnesau a'r gymuned, mewn unrhyw broses sydd â'r nod o gyflawni newid sylfaenol, megis y dyhead i sicrhau bod pob adeilad newydd yn ddi-garbon erbyn 2011. Yng ngoleuni hyn, comisiynodd Jane Davidson y Comisiwn a DCfW i gyflawni'r prosiect arloesol hwn er mwyn lleihau allyriadau niweidiol yn sylweddol o'r amgylchedd adeiledig yng Nghymru. Yn sgil hynny, ffurfiwyd 'Clymblaid o Bartneriaid Parod' - sef 'rhwydwaith traws-sector sy'n ymrwymedig i rannu gwybodaeth, dileu rhwystrau a chydweithio ar waith ymchwil a datblygu' (dyfyniad o adroddiad ar gynnydd - fersiwn llawn Peter Davies, Comisiynydd Cymru y Comisiwn, a gyflwynwyd i'r Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd ym mis Hydref 2008).

Estynnwyd gwahoddiad i Ysgol Pensaernïaeth Prifysgol Caerdydd i gynnal astudiaeth o arfer gorau o ran adeiladau newydd di-garbon a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid er mwyn nodi'r rhwystrau posibl i gynnydd a allai fodoli a thrafod ffordd ymlaen. Cynhwyswyd yr holl safbwyntiau a gwybodaeth amrywiol hon, gan gynnwys astudiaethau achos o ledled Cymru, y DU ac Ewrop, yn Uwchgynhadledd yr Amgylchedd Adeiledig a Newid yn yr Hinsawdd - a arweiniodd at greu'r Siarter Adeiladau Gwyrdd terfynol a ddaeth i rym ym mis Tachwedd y llynedd.

Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i'r Siarter yn y wasg leol a chenedlaethol a chanmoliaeth gan amryw sefydliadau.

Dywedodd Jonathon Porritt, Cadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy y DU, “Mae'n galonogol gweld bod gan Gymru y rhagwelediad a'r uchelgais i gyflymu'r cynnydd tuag at amgylchedd adeiledig cynaliadwy. Rwy'n gobeithio y bydd y dull cydweithredol a chydlynol a ddangoswyd heddiw yn ei galluogi i wneud cynnydd cyflym ac i ddangos esiampl i weddill y DU."

Dywedodd Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai LlCC, "Mae heddiw yn nodi cam arloesol arall gan Gymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd sy'n dangos ein hagwedd gadarnhaol. Credwn fod angen cymryd camau'n gynnar, ac mae'r siarter yn cadarnhau ymrwymiad Cymru i wneud y cyfan a allwn i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau ein hôl-troed carbon.

“Yr amgylchedd adeiledig yw'r prif beth sy'n cyfrannu at nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Mae'r ffordd rydym yn adeiladu ein cartrefi ac adeiladau eraill ac yn eu defnyddio yn cyfrif am 40% o'n hallyriadau carbon. Mae'n hanfodol bod ein holl adeiladau newydd yn defnyddio ynni'n effeithlon a'u bod mor wyrdd â phosibl.

"Mae'r siarter hon yn dangos parodrwydd amrywiol grwpiau ledled Cymru i leisio eu barn ac arfer eu pwerau i helpu Cymru i leihau ei hôl-troed carbon."

Canolfan Ddi-Garbon

 Er mwyn gweithredu ar y gwaith hwn, cyhoeddodd Jane Davidson y câi Canolfan Ddi-Garbon i Gymru a Chynghrair Cartrefi Presennol Cymru eu ffurfio. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiectau hyn yn fuan.

Am rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Dr. Gavin Bunting
Uwch Gynghorydd Polisi
02920 376978
g.bunting@sdc.wales.ac.uk

Rhestr lawn o bawb sydd wedi llofnodi'r Siarter

Andrew Scott Ltd  Lee Wakemans LLP
Boyes Rees Llandeilo Building Supplies
BRE Morrison Construction
Castleoak National Insulation Association
CBI Wales Coleg Castell-nedd Port Talbot
Coleg Sir GarFfederasiwn Adeiladwyr Cartrefi 
Sefydliad Datblygu Cymunedol Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai 
Adeiladu Arbenigrwydd yng NghymruPeter Brett Associates
Sgiliau AdeiladuSefydliad y Tywysog er yr Amgylchedd Adeiledig
 Cydweithfa Sgiliau Adfywio
Rounded Developments Enterprises Ltd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
Coleg Glannau DyfrdwyY Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru
Energy International Systems Ltd Stride Treglown Davies  
Ymddiriedolaeth Arbed YnniPrifysgol Fetropolitan Abertawe
ERMAcademi Ynni Cynaliadwy
Ffederasiwn y Meistr AdeiladwyrCymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA)
Gaunt Francis Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Grwp Gwalia  Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU
Hoare Lea Wates Living Space
Holder MathiasYsgol Pensaerniaeth, Prifysgol Caerdydd
Sefydliad y Peirianwyr Sifil CymruVELUX Company Ltd
Igloo White Design
KEF CIT Amgylcheddau Adeiledig CynaliadwyWLGA
Kingspan WWF Cymru
Sefydliad Tirwedd Cymru 

 

< Back